Ffurfio Mudiad Iaith Newydd – 16/07/2012

Cafodd mudiad newydd ei ffurfio heddiw i bwyso dros yr iaith Gymraeg. Fe fydd “Dyfodol i’r Iaith” yn fudiad annibynnol, amhleidiol fydd yn sicrhau bod y Gymraeg yn rhan ganolog o fywyd sifig a chymunedol Cymru.

Amcan Dyfodol yw dylanwadu drwy dduliau cyfansoddiadol ar sylwedd a chynnwys polisïau cyhoeddus a deddfwriaeth er mwyn hybu twf a llwyddiant y Gymraeg. Mae’r mudiad wedi ymrwymo i weithredu’n gyfangwbl gyfansodiadol ac ni fydd yn arddel tor-cyfraith.

Cyfarfod Cyffredinol Cyntaf – 20fed o Hydref

Fe fydd Cyfarfod Cyffredinol cyntaf mudiad Dyfodol i’r Iaith yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn yr 20fed o Hydref yng Nghanolfan Arad Goch, Aberystwyth.

Bydd y cyfarfod yn dechrau am 11 y bore ac yn para tan tua hanner awr wedi tri.

Y cadeirydd fydd Angharad Mair ac ymhlith y siaradwyr bydd yr Athro Richard Wyn Jones.  Sesiwn ar lobïo o dan ofal Dr Elin Royles.

Croeso i bawb a chyfle i bwy bynnag sydd heb ymaelodi â Dyfodol wneud hynny yn y fan a’r lle.  Aelodau llawn yn unig fydd â’r hawl i bleidleisio ar gynigion ffurfiol.

Cyfarfod Agored – 08/08/2012

Cyfarfod agored ym Mhabell y Cymdeithasau 2 am 4 o’r gloch brynhawn Mercher yn yr Eisteddfod.

Cadeirydd – Angharad Mair

Siaradwyr – Myrddin ap Dafydd
Beti George
Emyr Lewis
Heini Gruffudd

(i’w ddilyn gan dderbyniad caws a gwin ym mhabell Dyfodol ar y maes)

Cynhelir cyfarfod lansio Dyfodol I'r Iaith