Cymunedau

Does dim yn bwysicach na lle’r Gymraeg ym mywyd bob dydd pobl yn eu cymunedau a gyda’u teuluoedd – yn y gweithle ac mewn ysgolion, ac yn ystod oriau hamdden. Cymunedau llewyrchus sy’n cynnig y cyd-destun gorau ar gyfer twf y Gymraeg, a bydd Dyfodol yn rhoi pwyslais ar sicrhau dyfodol cynaladwy i’r Gymraeg yn ei chymunedau.

Fe fyddwn yn gweithredu mewn amryw o feysydd, gan gynnwys cynllunio, datblygu economaidd a hybu defnydd cymdeithasol o’r iaith. Gan fod y broses gynllunio o hyd yn cymell gorddatblygu enbyd ar brydiau, fe fyddwn yn dadlau dros gynllunio teg, yn seiliedig ar anghenion lleol a chynaladwyedd hirdymor yr iaith Gymraeg. Fe ddylai’r iaith fod wrth graidd datblygu economaidd   hefyd, wrth i swyddi gwerth chweil gael eu creu mewn rhannau o Gymru sy’n sensitif yn ieithyddol.

Newyddion Diweddaraf: Cymunedau