NID YW GWARCHOD IAITH YN HILIOL

Nid yw gwarchod iaith leiafrifol yn hiliol. Dyna medd Dyfodol i’r Iaith wrth ymateb i ffrae sydd wedi codi wrth i rapiwr ddweud na fydd yn canu yr yr Eisteddfod Genedlaethol eleni oherwydd y polisi defnyddio’r Gymraeg yn unig.

“Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi nodi droeon bwysigrwydd gwarchod ieithoedd
lleiafrifol, ac wedi gosod dyletswydd ar lywodraethau i’w hyrwyddo,” meddai Dylan
Bryn Roberts, Prif Weithredwr Dyfodol i’r Iaith.

“Nid mater hiliol yw hyrwyddo diwylliant iaith leiafrifol, yn enwedig un sy’n gorfod byw
yn barhaus mewn cystadleuaeth ag un o ieithoedd mwyaf grymus y byd.”

“Mae mewn iaith ddoethineb, gwybodaeth draddodiadol a mynegiant o gelf a
phrydferthwch ac mae’n hanfodol ceisio diogelu’r cyfoeth hwn mewn byd sy’n fwyfwy
cymysg.”

“Yr Eisteddfod Genedlaethol yw’r unig sefydliad yng Nghymru sy’n cynnig wythnos lle
gall siaradwyr, hen a newydd, ymdrochi yn llwyr mewn diwylliant Cymraeg. Nid ar
chwarae bach y sicrhawyd hyn, a cham negyddol tu hwnt fyddai caniatáu torri ar y
rheol Gymraeg. Rhaid gwarchod hynny fwy nac erioed rhag y galwadau cyson sydd
i’w Seisnigeiddio er mwyn bod yn fwy cynhwysol.”

“Mae croeso mawr i bawb ddysgu a mwynhau’r Gymraeg, o ba hil bynnag. Felly hefyd
y rhyddid sydd gan unigolion i rapio yn y ddwy iaith ond gwŷl sy’n dathlu’r Gymraeg
yw’r Eisteddfod, nid dathlu dwyieithrwydd.”