Sut gallwch chi helpu

Fel mudiad annibynnol ac amhleidiol, mae Dyfodol i’r Iaith yn llwyr ddibynnu ar gefnogaeth unigolion fel chi sy’n rhannu ein gweledigaeth. Defnyddir rhoddion ein aelodau a’n cefnogwyr tuag at gyflogi ein swyddogion a thalu am ein gwaith ymgyrchu a gweinyddiaeth.

Er mwyn parhau’n effeithiol, mae angen cynyddu ein hincwm a chyflogi 2 neu 3 pherson llawn amser i weithredu’n rhagweithiol ac ymateb yn syth i ddatblygiadau’r dydd: cryfhau ein presenoldeb gyda’r swyddogion a’r gwleidyddion o fewn y Senedd.

Mae nifer o ffyrdd y gallwch ein cefnogi’n ariannol. Os gwelwch yn dda, a wnewch chi ystyried cyfrannu a’n cefnogi at gyrraedd ein nod?