Dyfodol: Llais i’r Iaith? Crynodeb o araith yr Athro Richard Wyn Jones yn y cyfarfod cyffredinol

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi deillio o’r canfyddiad fod yna chwyldro wedi digwydd yng Nghymru dros yr hanner canrif diwethaf o ran sefydliadau gwleidyddol ac agweddau poblogaidd. Adeg traddodi ‘Tynged yr Iaith’ nid oedd yna Swyddfa Gymreig, hyd yn oed, heb sôn am ddeddfwrfa a Llywodraeth Gymreig nerthol.

Ni chafwyd er hynny chwyldro cymesur yn agweddau, trefniadaeth a dulliau y mudiad iaith. Mae’r Cymry Cymraeg yn dal i’w hystyried eu hunain yn ymylol; yn bobl heb eu sefydliadau gwladwriaethol eu hunain. Hyn er gwaetha’r ffaith na fu neb yn fwy creiddiol i’r broses o lunio’r sefydliadau cenedlaethol democrataidd na’r Gymru Gymraeg. Yn wir, eironi chwerw’r sefyllfa bresennol yw ei bod yn anodd meddwl am garfan o bwys ym mywyd Cymru sydd wedi gwneud llai o ddefnydd o’r cyfleon a grëwyd trwy sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru na chefnogwyr yr iaith. Er bod buddiannau myrdd o achosion yn cael eu cynrychioli ym Mae Caerdydd gan wahanol lobïwyr, nid oes unrhyw un yno’n gweithio’n llawn amser yn codi llais o blaid y Gymraeg.

Beth mae Dyfodol i’r Iaith yn ei olygu i mi – Angharad Dafis

Mae sicrhau dyfodol i’r iaith Gymraeg yn bwysicach na llwyddiant unrhyw fudiad. Mae’n ymwneud â hunaniaeth y bobl hynny sy’n perthyn neu sy’n teimlo eu bod yn perthyn i’r cilcyn hwn o ddaear, a thrwy hynny yn rhan o gynhysgaeth y ddynoliaeth oll. Mae hi wrth reswm yn dreftadaeth i’r rheiny ohonom sy’n hanu o linach ddi-dor o siaradwyr Cymraeg. Mae hynny yn dipyn o ryfeddod. Mwy fyth o ryfeddod fodd bynnag yw’r ffaith fod cynifer wedi mynd ati i ddysgu ac i gofleidio’r Gymraeg, er na chawsant eu magu ynddi o’r crud.