Ffurfio Mudiad Iaith Newydd – 16/07/2012

Cafodd mudiad newydd ei ffurfio heddiw i bwyso dros yr iaith Gymraeg. Fe fydd “Dyfodol i’r Iaith” yn fudiad annibynnol, amhleidiol fydd yn sicrhau bod y Gymraeg yn rhan ganolog o fywyd sifig a chymunedol Cymru.

Amcan Dyfodol yw dylanwadu drwy dduliau cyfansoddiadol ar sylwedd a chynnwys polisïau cyhoeddus a deddfwriaeth er mwyn hybu twf a llwyddiant y Gymraeg. Mae’r mudiad wedi ymrwymo i weithredu’n gyfangwbl gyfansodiadol ac ni fydd yn arddel tor-cyfraith.

Fe fydd Dyfodol yn lobïo dros ddyfodol y Gymraeg wrth ddrysau’r Cynulliad. Bydd yn cynnal deialog gyda sefydliadau megis Llywodraeth Cymru, Comisiynydd y Gymraeg, pleidiau gwleidyddol, cyrff cyhoeddus, mudiadau’r trydydd sector a chwmniau preifat er mwyn sicrhau bod yr iaith Gymraeg wrth galon eu polisïau a’u gweithdrefnau.

“Mae’n rhaid ymateb i her y Gymru newydd lle mae gan y Cynulliad bwerau deddfu cynradd. Mae angen mudiad fel Dyfodol er mwyn manteisio ar y cyfleon newydd i ddeddfu er lles y Gymraeg”, meddai Heini Gruffudd, Abertawe, aelod o bwyllgor llywio y mudiad.

Ymhlith y meysydd y bydd Dyfodol yn canolbwyntio arnynt mae addysg, cymunedau, economi, y cyfryngau a chynllunio ieithyddol. Bydd Dyfodol yn cydweithio gyda mudiadau gwirfoddol, sefydliadau academaidd ac eraill i rannu syniadau a llunio polisïau newydd, cyffrous yn y meysydd hyn.

Mae aelodaeth Dyfodol yn agored i unrhyw un sy’n caru’r iaith Gymraeg a’r bwriad yw cyflogi staff proffesiynol i gynorthwyo gyda rhaglen waith y mudiad.

Ymhlith y bobl sydd eisoes wedi ymrwymo i gefnogi Dyfodol mae’r canlynol:
Nick Bennett
Dr Simon Brooks
Angharad Dafis
Cynog Dafis
Beti George
Heini Gruffudd
Robat Gruffudd
Dr Bleddyn Huws
Ron Jones
Emyr Lewis
Gwion Lewis
Dr Huw Lewis
Angharad Mair
Dr Barry Morgan
Adam Price
Dr Elin Royles
Hywel Williams (hanesydd)
Elin Wyn
Yr Athro Richard Wyn Jones

Bydd cyfarfod cyhoeddus i lansio’r mudiad yn cael ei gynnal ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llandŵ ar ddydd Mercher Awst 8fed am 4 y prynhawn ym Mhabell y Cymdeithasau.

Fe fydd gan Dyfodol stondin ar faes y Brifwyl hefyd.