TRAFODAETHAU’N GYFLE I AILOSOD YR AGENDA AR GYFER Y GYMRAEG.

Mae Dyfodol i’r Iaith yn croesawu’r trafodaethau sydd ar y gweill rhwng Llafur a Phlaid Cymru ac yn gobeithio bydd hyn yn gyfle i ailosod yr agenda ar gyfer polisïau i gefnogi’r Gymraeg.

Dywed Heini Gruffudd, Cadeirydd y mudiad:

“Byddwn yn pwyso ar y ddwy Blaid i adnabod y trafodaethau hyn fel cyfle i ystyried gwir anghenion y Gymraeg er mwyn cyrraedd y nod o greu miliwn o siaradwyr.”

Ymysg y blaenoriaethau, mae’r mudiad yn galw ar y ddwy Blaid i:

  • Ddyrchafu statws Is-Adran y Gymraeg o fewn y Llywodraeth.
  • Ehangu addysg cyfrwng Cymraeg a chyflwyno rhaglen hyfforddi Cymraeg uchelgeisiol i staff sy’n gweithio ym maes addysg.
  • Llunio polisi Cynllunio sy’n gwarchod y Gymraeg a mynd i’r afael â’r argyfwng tai.
  • Gweithredu ar fyrder yn unol ag argymhellion adroddiad Dr Simon Brooks ar ail gartrefi.
  • Datblygu cynllun Arfor fyddo’n hybu’r iaith a datblygu’r economi yng nhadarnleoedd y Gymraeg.
  • Ehangu’r Gymraeg yn y gweithle.
  • Cryfhau statws yr iaith yn y sector breifat.

Ac yn olaf a chwbl ddigost-

  • Cynyddu defnydd o’r Gymraeg yn y Senedd, gan gynnwys arweinyddion a gweinidogion.

Cydraddoldebau a’r Gymraeg

Mae adroddiad gan yr Welsh Anti-Racist Union yn dod i’r casgliad fod gweithdrefnau a pholisïau Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru yn systemaidd hiliol ac yn gosod rhwystrau i gyfranogaeth pobl dduon a phobl o liw i’r celfyddydau a diwylliant yng Nghymru. Mae adroddiad o’r fath yn bwysig ac amserol, ac yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau mewn dau faes sydd ond yn gallu ffynnu drwy annog amryfalwch safbwynt a phrofiad.

Gresyn, fodd bynnag, bod y modd y cyflwynwyd ac adroddwyd y casgliadau hyn yn arddel y camsyniad nad yw pobl dduon neu bobl o liw yn gallu na dymuno siarad y Gymraeg. Gwaeth fyth, mae’r ymateb hwn gosod buddiannau dau grŵp lleiafrifol (pobl dduon a siaradwyr y Gymraeg) yn erbyn ei gilydd, heb dderbyn fod hyn yn ddeuoliaeth cwbl ffals. Hynny yw, sgil y mae modd ei ddysgu yw’r Gymraeg: mae pobl o bob cefndir ethnig eisoes yn gallu’r Gymraeg a, phwysicach byth, y mae angen paratoi mwy o gyfleoedd addas a hyblyg i bobl o bob cefndir gael dysgu’r iaith.

Eironi’r adroddiad angenrheidiol hwn yw bod ymateb y wasg iddo’n pwysleisio’n ddieithriad y Gymraeg fel rhwystr i gyfranogaeth, gan anwybyddu canrifoedd o ideoleg anghyfiawn sydd yn gwbl anghysylltiedig â’r ymdrechion i ennill hawliau sifil i’r Gymraeg.

Credwn ei bod yn hen bryd cychwyn trafodaeth eang ar sut i gydbwyso a chyfuno cydraddoldeb hil (a’r holl gydraddoldebau eraill) ag anghenion yr iaith Gymraeg ym mywyd cyhoeddus y genedl. Mae’n dorcalonnus nodi ei bod yn llawer haws gwneud bwgan o leiafrif arall yn hytrach na herio’r statws quo.

 

DYFODOL YN CROESAWU £30 MILIWN YCHWANEGOL I ADDYSG GYMRAEG, OND YN PWYSLEISIO’R ANGEN AM YMRODDIAD HIRDYMOR

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd £30m ychwanegol ar gael i ddatblygu addysg Gymraeg, a dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd y mudiad:

“Mae’n dda iawn gennym weld y Llywodraeth yn cydnabod bod angen buddsoddi mewn addysg Gymraeg a bod hynny’n hanfodol i’r nod o greu miliwn o siaradwyr erbyn 2050.”

Ychwanegodd, fodd bynnag na fyddai’r fath fuddsoddiad yn dderbyniol fel taliad unigol a bod rhaid sicrhau bod y gefnogaeth yn rhan o ymrwymiad hirdymor i ddatblygu addysg Gymraeg:

“Byddwn yn pwysleisio, fodd bynnag, bod angen y math hwn o fuddsoddiad ar sail flynyddol reolaidd os yw am wneud gwir wahaniaeth a chefnogi awdurdodau lleol i gynllunio darpariaeth gadarn yn unol ag amserlen eu Cynlluniau Strategol y Gymraeg Mewn Addysg.

Yng nghyd-destun Prosiect Cymraeg 2050, ac addysg yn benodol, rhaid i’r Llywodraeth dderbyn nad oes ganddynt ddewis arall ond gweithredu’n strategol a chefnogi’r camau angenrheidiol gyda chyllid cyson a phwrpasol.”