Rhodd Er Cof

Mae Rhodd er Cof i Dyfodol i’r Iaith yn ffordd arbennig o gofio am rywun annwyl gennych ac yn gwneud gwir wahaniaeth i ffyniant yr iaith Gymraeg yn eich cymuned a thrwy Cymru gyfan.

Defnyddir rhoddion ein cyfeillion tuag at weithredu’n gyfansoddiadol i ddylanwadu ar Lywodraeth Cymru, y pleidiau gwleidyddol ac arweinwyr cyrff cyhoeddus ac eraill, i roi’r iaith Gymraeg wrth galon eu polisïau, cyfreithiau a’u gweithgareddau.

Sut gallwch chi gefnogi gwaith Dyfodol i’r Iaith er cof am rywun annwyl?

Gallwch ystyried:

  • Trefnu casgliad mewn angladd. Rhowch y manylion isod i’r trefnydd angladdau i drefnu’r casgliad a’i ddanfon atom.

          Enw’r mudiad: Dyfodol i’r Iaith Cyf

          Rhif cwmni cofrestredig: 08102569

          Cyfeiriad: Blwch Post 180, Caerfyrddin SA31 9EN

  • Gwneud cyfraniad personol ar-lein. Defnyddiwch ein taflen Rhoi er Cof – cyfraniad uniongyrchol  i wneud cyfraniad er cof am rywun annwyl.
  • Danfon cyfraniad uniongyrchol atom – Defnyddiwch ein taflen Rhoi er Cof I ddanfon cyfraniad atom er cof am rywun annwyl.

Os oes gennych unrhyw gwestiwn ynglŷn â rhoi rhodd er cof, cysylltwch â Meinir James, ein Swyddog Datblygu, ar 07399 355790 neu danfonwch neges at [email protected].

Diolch i chi, wrth wynebu penderfyniadau personol dwys, am ystyried cyfrannu’n gadarnhaol tuag at ddyfodol tymor hir yr iaith Gymraeg.