YMGYNGHORIAD CYNLLUNIO ADFERIAD Y GYMRAEG PWNC TRAFOD 6: DEMOGRAFFEG A CHYNLLUNIO

Y testun trafod diweddaraf yn ein hymgynghoriad ar Gynllunio Adferiad y Gymraeg yw DEMOGRAFFEG A CHYNLLUNIO.

Fel o’r blaen, byddwn yn ddiolchgar iawn o dderbyn eich sylwadau, awgrymiadau ac unrhyw brofiadau ymarferol perthnasol sydd gennych i’w rhannu â ni. Mae croeso i chwi ddefnyddio’r templed cwestiynau isod neu anfon eich sylwadau atom ar unrhyw ffurf arall.

Isod, ceir crynodeb o ofynion Dyfodol ynglŷn â demograffeg y Gymraeg ac anghenion cynllunio. Os ydych am weld y ddogfen, Cynllunio Adferiad y Gymraeg yn ei chrynswth, mae copi ar gael i’w darllen ar ein gwefan, dyfodol.net

Diolch drachefn i bawb sydd wedi ymateb hyd yma. Edrychwn ymlaen at glywed gennych – cysylltwch â ni gyda’ch sylwadau:

[email protected]

neu ffoniwch 01248 811798

 PWNC TRAFOD 6: DEMOGRAFFEG A CHYNLLUNIO

 Dyma farn Dyfodol:

Demograffeg yw’r berthynas rhwng pobl a thiriogaeth. Mae’r pennawd yn cael ei ddefnyddio yma i gynnwys nifer o elfennau – economi, cartrefi, defnydd o dir, cynllunio gwlad a thref ac yn y blaen – mewn perthynas â’r iaith Gymraeg. Mae a wnelo’r adran yma â’r ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn iaith gymunedol gyffredin, yn bennaf yn y gorllewin ond hefyd mewn sawl man arall. Mae hwn yn faes heriol a chymhleth.

Cynigiwyd cysylltu ardaloedd y gorllewin wrth ei gilydd yn rhanbarth Arfor er mwyn mynd i’r afael â’u gwendid economaidd ac yn arbennig y gwaedlif o bobl ifainc dawnus, llawer iawn yn siaradwyr Cymraeg, sy’n eu gadael yn flynyddol – un o’r prif ffactorau yn nirywiad y Gymraeg. Mae Llywodraeth Cymru wedi arddel y cysyniad. Ein barn ni yw bod angen grymuso’r weledigaeth yma a’i gwneud hi’n gynhwysyn allweddol yn y strategaeth gyffredinol i ddatblygu Cymru’n wlad lwyddiannus a hyderus. Y bwriad fyddai i ranbarth Arfor gynnig cyfleoedd gyrfaol amrywiol a chyffrous, cyfle ac anogaeth i arloesi a mentro hefyd, fel bod pobl ifainc am greu dyfodol iddynt eu hunain o fewn y rhanbarth yma, drwy aros neu ddychwelyd neu symud i mewn. Dylai’r cyfan fod ynghlwm wrth fwriad i ddiogelu a chryfhau’r gymuned a chymunedau Cymraeg.

Byddai polisi cynllunio gwlad a thref a pholisi cartrefu yn adlewyrchu anghenion ac yn atgyfnerthu’r rhanbarth a’i chymunedau yn hytrach na buddiannau datblygwyr masnachol nerthol a’u gyriant tuag at y gor-ddarparu dall a niweidiol sy’n digwydd ar hyn o bryd.   

 YDYCH CHI’N CYTUNO Â NI? OES GENNYCH UNRHYW SYLWADAU AR DDEMOGRAFFEG YR IAITH A / NEU MATERION CYNLLUNIO?

 

YMGYNGHORIAD CYNLLUNIO ADFERIAD Y GYMRAEG PWNC TRAFOD 1: LLEDAENU DEALLTWRIAETH O’R GYMRAEG

Dros y misoedd nesaf, bydd Dyfodol i’r Iaith yn ymgynghori ar ein hargymhellion polisi a grynhoir yn y ddogfen, Cynllunio Adferiad y Gymraeg. Rydym yn awyddus iawn i dderbyn eich barn ar y gwahanol elfennau sydd yn greiddiol i dwf y Gymraeg ac sydd angen sylw gan y Llywodraeth a’r gwleidyddion.

Byddwn yn canolbwyntio ar wahanol bynciau dros yr wythnosau nesaf, gan gychwyn gydag Ymwybyddiaeth Iaith – sut i ennyn brwdfrydedd dros y Gymraeg ac ennill cyfeillion newydd i’r iaith. Ceir manylion llawn yn y ddogfen Cynllunio Adferiad y Gymraeg sydd i’w gweld ar flaen ein gwfan. Isod, ceir grynodeb o argymhellion y ddogfen ynglŷn â lledaenu dealltwriaeth o’r Gymraeg a rhai cwestiynau sydd angen eu gofyn.

Yn y pen draw, ein bwriad yw cyflwyno argymhellion cadarn i’r Pleidiau wrth iddynt baratoi ar gyfer Etholiadau’r Cynulliad yn 2021.

Mae’n gyfnod ansicr i ni i gyd, ond bydd yr hinsawdd anodd o’n blaenau yn gofyn am flaenoriaethau cadarn.

Gobeithiwn yn fawr y byddwch yn cyfrannu at ein sgwrs. Byddwn yn ddiolchgar iawn o glywed gennych.

Cysylltwch â ni yn ddiymdroi, felly:

[email protected]

neu ffoniwch 01248 811798

 

PWNC TRAFOD 1: LLEDAENU DEALLTWRIAETH O’R GYMRAEG

 Yr Egwyddor:

Mae’n hanfodol bod y genedl yn deall ystyr creu miliwn o siaradwyr, a’u bod yn cefnogi’r fenter. Mae hynny’n golygu dangos arwyddocâd y Gymraeg i fywyd y genedl, pam mae ei hadfer yn bwysig ac yn gyffrous, pam mae meddu arni yn fanteisiol, a sut y bwriedir mynd ati. Mae’n golygu esbonio sut mae dwyieithrwydd yn gweithio mewn gwirionedd, rhoi bri ar yr iaith a chodi hunan-hyder ei siaradwyr drwy ei hyrwyddo a’i marchnata ymhob dull a modd.

Cam sylfaenol felly yw rhaglen gynhwysfawr o addysgu ieithyddol a hyrwyddo’r iaith ar bob lefel, o’r bôn i’r brig.

YDYCH CHI’N CYTUNO Â’R EGWYDDOR HWN? OES GENNYCH UNRHYW SYLWADAU?

Y Nod:

  • Sicrhau bod pawb yng Nghymru (boed yn siaradwyr Cymraeg, yn ddi-Gymraeg neu’n ddysgwyr) yn derbyn neges gadarnhaol, ymarferol a rhagweithiol ynglŷn â gwerth ac arwyddocâd y Gymraeg. Awgrymwn fynd i’r afael â hyn drwy gyfrwng Strategaeth Ymwybyddiaeth Iaith gynhwysfawr.
  • Er mai’r un fyddo’r neges i bawb yn y bôn, bydd angen ystyried sut i deilwra’r neges i wahanol bobl ac ystyried y cyfryngau gorau i drosglwyddo’r neges.

YDYCH CHI’N CYTUNO Â’R NOD A’R ANGEN I DARGEDU’R NEGES?

Meysydd Trafod:

Byddwn yn gwerthfawrogi eich sylwadau a’ch mewnbwn ar yr argymhellion canlynol. Byddwn hefyd yn ddiolchgar os byddech yn rhannu unrhyw brofiadau o godi Ymwybyddiaeth Iaith.

  • Mae angen rhaglen gyffredinol genedlaethol i godi Ymwybyddiaeth Iaith: ymgyrch gan y Llywodraeth fyddo’n targedu’r cyfryngau, y cyfryngau cymdeithasol a mannau cyhoeddus.
  • Mae angen rhannu’r neges gyda theuluoedd (rhieni, darpar-rieni, gofalwyr, neiniau a theidiau) a roi pwyslais ar fanteision a phwysigrwydd defnyddio’r Gymraeg ar yr aelwyd a throsglwyddo’r iaith i’r genhedlaeth nesaf.
  • Y sector gyhoeddus. Gofynnir i gyrff sy’n gorfod cydymffurfio â’r safonau iaith roi hyfforddiant Ymwybyddiaeth Iaith i’w staff. Byddwn yn edrych ar sut y gallwn gael y gorau o’r gofyn statudol hwn.
  • Y sector breifat a gwirfoddol. Pa adnoddau a chanllawiau sydd angen eu datblygu er mwyn sicrhau bod cyrff a busnesau (bach a mawr) yn ymwybodol o’u cyfraniad i ffyniant y Gymraeg?
  • Pobl ifanc. Sut gallwn hybu brwdfrydedd tuag at yr iaith ymysg pobl ifanc? Credwn fod y cyfryngau cymdeithasol yn ogystal â gweithgareddau hamdden yn allweddol i hyn.

PA GRWPIAU ERAILL FYDD ANGEN EU HYSTYRIED?

OES GENNYCH CHI UNRHYW SYNIADAU NEU BROFIAD O GODI YMWYBYDDIAETH IAITH YMYSG UNRHYW UN (NEU ARALL) O’R UCHOD Y BYDDWCH YN FODLON EU RHANNU GYDA NI?

OES GENNYCH CHWI UNRHYW SYLWADAU PELLACH AR SUT I GODI YMWYBYDDIAETH O’R GYMRAEG?