Polisïau

Yn Nhachwedd 2020 cyhoeddwyd ein dogfen Troi Dyhead yn Realiti – gofynion Dyfodol i’r Iaith ar gyfer Senedd Cymru 2021-2026. Mae’r ddogfen yn gosod glasbrint ymarferol i wleidyddion o bob plaid ar sut i wrthdroi shifft iaith tuag at y Gymraeg drwy gynllunio cyfannol a lledaenu dealltwriaeth o ddwyieithrwydd ac ymwybyddiaeth iaith.

Trafodir pwysigrwydd:

  • Addysg
  • Cymraeg i Oedolion
  • Cymunedau’r Gymraeg
  • Economi ffyniannus (gan gynnwys gweithleoedd Cymraeg, cynllunio, defnydd tir a chartrefi)
  • Y Cyfryngau a Diwylliant

Amlynellir, hefyd, yn y ddogfen, yr ymrwymiadau rydym ni am i’r pleidiau gwleidyddol eu gwneud erbyn sefydlu llywodraeth newydd Cymru ym Mai 2021.

Gallwch lawrlwytho Troi dyhead yn realiti