Cynllunio Ieithyddol

Mae angen cynllunio ieithyddol tymor hir i ddiogelu’r iaith, fel sy’n digwydd mewn gwledydd bychain eraill yn Ewrop.  Mae angen creu cynllun ugain mlynedd yn cwmpasu’r sectorau preifat a chyhoeddus, chwaraeon ac adloniant, y cyfryngau digidol a thraddodiadol. Bydd yn edrych y tu hwnt i statws cyhoeddus gan hoelio sylw ar y Gymraeg fel iaith fyw, yn gymunedol a theuluol.

Rydym am weld symud pwyslais polisi i’r Gymraeg fel bod Cynllunio Ieithyddol cynhwysfawr yn ganolog. Cyhoeddwyd ein dogfen Cynllunio Adferiad y Gymraeg gan Cynog Dafis, yn Ebrill 2020, sy’n ymdrech i egluro rhywfaint ar beth rydyn ni’n ei feddwl wrth hyn.

Byddwn yn ddiolchgar iawn i dderbyn sylwadau, awgrymiadau ac unrhyw brofiadau ymarferol perthnasol sydd gennych i’w rhannu â ni yng nghyd-destun y ddogfen hon. Gallwch ddanfon eich sylwadau at [email protected] neu ffoniwch 01248 811798 am sgwrs.

 

Newyddion Diweddaraf: Cynllunio Ieithyddol