TRAFODAETHAU’N GYFLE I AILOSOD YR AGENDA AR GYFER Y GYMRAEG.

Mae Dyfodol i’r Iaith yn croesawu’r trafodaethau sydd ar y gweill rhwng Llafur a Phlaid Cymru ac yn gobeithio bydd hyn yn gyfle i ailosod yr agenda ar gyfer polisïau i gefnogi’r Gymraeg.

Dywed Heini Gruffudd, Cadeirydd y mudiad:

“Byddwn yn pwyso ar y ddwy Blaid i adnabod y trafodaethau hyn fel cyfle i ystyried gwir anghenion y Gymraeg er mwyn cyrraedd y nod o greu miliwn o siaradwyr.”

Ymysg y blaenoriaethau, mae’r mudiad yn galw ar y ddwy Blaid i:

  • Ddyrchafu statws Is-Adran y Gymraeg o fewn y Llywodraeth.
  • Ehangu addysg cyfrwng Cymraeg a chyflwyno rhaglen hyfforddi Cymraeg uchelgeisiol i staff sy’n gweithio ym maes addysg.
  • Llunio polisi Cynllunio sy’n gwarchod y Gymraeg a mynd i’r afael â’r argyfwng tai.
  • Gweithredu ar fyrder yn unol ag argymhellion adroddiad Dr Simon Brooks ar ail gartrefi.
  • Datblygu cynllun Arfor fyddo’n hybu’r iaith a datblygu’r economi yng nhadarnleoedd y Gymraeg.
  • Ehangu’r Gymraeg yn y gweithle.
  • Cryfhau statws yr iaith yn y sector breifat.

Ac yn olaf a chwbl ddigost-

  • Cynyddu defnydd o’r Gymraeg yn y Senedd, gan gynnwys arweinyddion a gweinidogion.

HYRWYDDO’R GYMRAEG A SICRHAU CYDRADDOLDEB HIL: NID MATER O “UN AI / NEU”.

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi galw am drafodaeth genedlaethol ar gysoni hyrwyddo’r Gymraeg gyda’r angen i sicrhau cydraddoldeb hil. Daw’r galw hwn yn sgil yr ymateb i’r adroddiad diweddar ar y cyfleoedd a roddir gan Gyngor y Celfyddydau ac Amgueddfeydd Cymru i bobl dduon a phobl o liw.

Yn y wasg (a’r wasg Saesnig yn enwedig) adroddwyd y casgliadau fel cyhuddiad yn erbyn y Gymraeg, fel petai’r gofynion ieithyddol yn rhwystro amrywiaeth a chydraddoldeb yn y sectorau hyn.

Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol:

“Roedd dehongliad y wasg o’r adroddiad hwn yn bryfoclyd a chwbl wallus, gan awgrymu nad oes modd i berson du neu berson o liw allu siarad na dysgu’r Gymraeg. Gwyddom, wrth gwrs, mai ffwlbri llwyr a sarhaus yw’r fath awgrym a bod angen mwy o gyfleoedd addas a hyblyg i bawb gael dysgu’r Gymraeg.

Nid mater o ddewis a dethol na blaenoriaethu yw hyrwyddo’r Gymraeg a sicrhau cydraddoldeb hil: mae’n rhaid i’r ddau fynd law yn llaw os ydym am i’r iaith ffynnu a chyfoethogi drwy ddod yn gyfrwng i ystod eang o brofiadau.

Nid yw Llywodraeth Cymru’n rhydd o’r camsyniad hwn ychwaith. Wrth osod y cwricwlwm hanes, maent wedi penderfynu (yn gywir) rhoi sylw i hanes pobl dduon a phobl o liw yng Nghymru, ond wedi gwrthod y gofyn i ddysgu am hanes Cymru. Unwaith eto, nid mater o un ai / neu ydi hwn. Mae hanes ein gwlad yn allweddol i’n dealltwriaeth o’r presennol a heb gyd-destun hanes Cymru, yna fe amddifadir hanes pobl dduon ein cenedl o gyd-destun sy’n allweddol i ddealltwriaeth o’r hanes hwnnw.”

RHAGLEN WEITHREDU CYMRAEG 2050: YMATEB DYFODOL

Ymddengys bod digon o ewyllys da tuag at y Gymraeg yn y Senedd, ond erys yr her sicrhau bod geiriau teg yn troi’n weithredu cadarn.Yn ein barn ni mae’r Rhaglen newydd ar gyfer Gweithredu Cymraeg 2050 yn codi llu o gwestiynau ac yn pwysleisio’r angen i fwrw ymlaen ar fyrder. Mae nifer o’r amcanion a’r targedau’n gyfarwydd iawn ers 2017 ac yn amlygu mesur arswydus o oedi. Mae’r gwaith yn gymhleth ac mae angen ei fapio’n ofalus, gam fesul cam, gan bennu cyllid a chyfrifoldeb ar gyfer pob elfen o’r gwaith. Yn hyn o beth, rhaid datgan drachefn yr angen am Awdurdod rymus i’r Gymraeg er mwyn gosod cyfeiriad a chyd-lynu cyfrifoldebau a chyfraniad pob adran, asiantaeth a phartner tuag at yr agenda aruthrol hwn.

Dywed Gweinidog y Gymraeg ei bod yn ddyddiau cynnar ar y Llywodraeth newydd ac mai dyna sydd i’w gyfrif am y diffyg manylion. Pwysleisiwn ninnau drachefn y byddai Awdurdod Iaith yn caniatáu datblygiad polisi a gweithredu cyson a di-dor. Dyna beth sydd ar goll a beth sydd wir ei angen.