Amdanom Ni

Mudiad pwyso a lobio yw Dyfodol i’r Iaith. Dymuniad y mudiad yw gweld polisiau cadarnhaol o blaid yr iaith yn cael eu gweithredu gan y Llywodraeth a llywodraeth leol.

Dyma fudiad sy’n agored i bawb sydd am weld y Gymraeg yn ffynnu. Mae gan aelodau ein Bwrdd arbenigedd ym meysydd addysg, cynllunio iaith, gwleidyddiaeth, y gyfraith, y byd academaidd a diwylliannol, darlledu, y cyfryngau a marchnata.

Rydym wedi llwyddo i ddylanwadu eisoes mewn sawl maes:

  • Sefydlu dwsin o Ganolfannau Cymraeg
  • Sefydlu ail sianel radio boblogaidd
  • Cael y Gymraeg yn rhan o’r broses cynllunio tai
  • Sefydlu Canolfan Genedlaethol Cymraeg i Oedolion
  • Rhoi pwyslais ar hyrwyddo’r Gymraeg yn gymunedol

Ond mae llawer o waith ar ôl i sicrhau y bydd y Gymraeg yn dal i ffynnu.

Credwn:

Bod angen polisiau sy’n rhoi lle blaenllaw i’r iaith yn y system addysg, ym myd gwaith, yn y gymdeithas a’r cartref.

Bod angen siarad gyda phob plaid wleidyddol i ddylanwadu.