Gweithredu

Mae gennym i gyd gyfle i hybu’r Gymraeg. Un o amcanion Dyfodol i’r Iaith yw bod yn gefn i bobl, a’u hannog i arddel a defnyddio’r Gymraeg yn hyderus o ddydd i ddydd.

Bydd Dyfodol i’r Iaith hefyd yn cymell aelodau a chefnogwyr i ymateb i faterion yn ymwneud â’r iaith Gymraeg yn eu hardal nhw, drwy lythyru â gwleidyddion a’r cyfryngau, cwmnïau a sefydliadau.

Bydd cyfle hefyd i aelodau gynnig syniadau a chyfrannu at lunio polisïau mewn gwahanol feysydd; ymateb i ymgynghoriadau statudol yn ogystal â chyfrannu at waith y mudiad yn gyffredinol.