Rhoi mewn ewyllys

Sut gallwch sicrhau y bydd yr iaith Gymraeg wastad yn ffynnu?

Gallai gadael rhodd i Dyfodol i’r Iaith yn eich ewyllys wneud gwir wahaniaeth i ffyniant yr iaith Gymraeg yn eich cymuned a thrwy Gymru gyfan.

Pwrpas Dyfodol i’r Iaith yw sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn rhan ganolog o fywyd Cymru a bod y Gymraeg yn parhau’n fater byw ar yr agenda gwleidyddol. Rydym yn gweithredu’n gyfansoddiadol i ddylanwadu ar Lywodraeth Cymru, y pleidiau gwleidyddol, arweinwyr cyrff cyhoeddus ac eraill, i roi’r iaith Gymraeg wrth galon eu polisïau, cyfreithiau a’u gweithgareddau.

Rydym wedi dylanwadu eisoes ar sawl penderfyniad gan Lywodraeth Cymru ers ein sefydlu yn 2012:

  • Sefydlu dwsin o Ganolfannau Cymraeg
  • Sefydlu ail sianel radio boblogaidd
  • Cael y Gymraeg yn rhan o’r broses cynllunio tai
  • Sefydlu Canolfan Genedlaethol Cymraeg i Oedolion
  • Rhoi pwyslais ar hyrwyddo’r Gymraeg yn Gymunedol ac addysgiadol
  • Sefydlu yr egwyddor o gynllunio ieithyddol cyfannol mewn perthynas â’r Gymraeg

– ond mae llawer o waith ar ôl i sicrhau y bydd y Gymraeg yn dal i ffynnu.

Credwn fod angen:

  • Sefydlu Corff Cynllunio Iaith pwerus a fydd yn cydlynu polisi iaith, dros y tymor hir, pob sector: addysg, byd gwaith, hamdden a maes cynllunio.
  • I Gymru fabwysiadu polisïau sy’n rhoi lle blaenllaw i’r iaith Gymraeg yn y system addysg, ym myd gwaith, yn y gymdeithas a’r cartref.
  • siarad gyda phob plaid wleidyddol er mwyn dylanwadu.

Fel mudiad annibynnol ac amhleidiol, mae Dyfodol i’r Iaith yn llwyr ddibynnu ar gefnogaeth unigolion sy’n rhannu ein gweledigaeth.

Gallai gadael rhodd i Dyfodol i’r Iaith yn eich ewyllys wneud gwir wahaniaeth.

Sut mae gadael rhodd yn eich ewyllys i Dyfodol i’r Iaith?

Mae’n hawdd i’w wneud ac awgrymwn eich bod yn trafod gyda’ch teulu a chysylltu â chyfreithiwr. Y peth pwysicaf fydd cynnwys y manylion isod:

  • Enw’r mudiad: Dyfodol i’r Iaith Cyf
  • Rhif cwmni cofrestredig: 08102569
  • Cyfeiriad: Blwch Post 180, Caerfyrddin SA31 9EN

Os oes gennych ewyllys yn barod, efallai na fydd angen i chi ei newid ond gallwch ofyn i berson proffesiynol fel cyfreithiwr i ychwanegu newidiad (Codisil) iddo.

Beth yw’r opsiynau?

Ar ôl gofalu am anwyliaid a theulu yn eich ewyllys, gallwch ystyried:

  • Rhoi swm penodol o arian
  • Rhoi canran fechan (rhodd weddilliol) o’ch ystâd; mantais hyn yw na fyddai angen i chi newid eich ewyllys dros amser i gyd-fynd gyda chwyddiant
  • Gadael eitem benodol e.e. darn o waith celf neu gemwaith

Gallwch drafod yr holl opsiynau gyda’ch cyfreithiwr.

Diolch

Diolch  i chi, wrth wynebu penderfyniadau personol dwys, am ystyried cyfrannu’n gadarnhaol tuag at ddyfodol tymor hir yr iaith Gymraeg.

Ein dymuniad ni oll yw gweld yr iaith Gymraeg yn ffynnu ac ymfalchïo gyda’n gilydd ein bod wedi cyfrannu’n gadarnhaol at lewyrch y Gymraeg.

Os hoffech sgwrs bellach, neu os ydych angen mwy o fanylion, cysylltwch â Meinir James, Swyddog Datblygu Dyfodol i’r Iaith –  [email protected] neu ffoniwch 07399 355790.