GALW AM RAGLEN HYFFORDDIANT IAITH I ATHRAWON

Mae Dyfodol yr Iaith yn galw am fuddsoddiad sylweddol mewn rhaglen hyfforddiant iaith i athrawon.

Daw’r alwad yn sgil cyhoeddiad y Gweinidog addysg, Kirsty Williams, y bydd Cymraeg ail iaith yn cael ei dileu.

Medd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Rydyn ni’n croesawu cyhoeddiad y Gweinidog, ond mae’n rhaid cael rhaglen ddwys o hyfforddiant iaith i filoedd o athrawon.”

“Ar hyn o bryd, ysgolion Cymraeg sy’n dysgu pynciau trwy’r Gymraeg yw’r unig fodel sy’n cyflwyno’r Gymraeg a’r Saesneg yn llwyddiannus i bob disgybl.”

“Dyw dysgu’r Gymraeg fel pwnc ddim yn ddigon – mae’n rhaid dysgu pynciau eraill trwy gyfrwng y Gymraeg.  Fydd ysgolion Cymru ddim yn gallu gwneud hyn heb fod cynnydd mawr yn nifer yr athrawon Cymraeg sydd â chymhwyster yn yr iaith, a chynnydd mawr yn nifer yr athrawon pwnc sy’n gallu dysg trwy gyfrwng yr iaith.”

“Mae’n rhaid i ni ddilyn patrwm Gwlad y Basgiaid, lle rhoddwyd buddsoddiad enfawr i gael athrawon â sgiliau ieithyddol digonol.  Heb wneud hyn, mae perygl y bydd gobeithion y Gweinidog yn mynd i’r gwellt.”

“Rydyn ni’n galw, felly, ar y Llywodraeth i gyflwyno rhaglen helaeth o hyfforddiant iaith i filoedd o athrawon.”

GALW AM BOLISIAU I ANNOG MYFYRWYR CYMRU I ASTUDIO YM MHRIFYSGOLION CYMRU

Mae Dyfodol i’r Iaith yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau pendant i annog disgyblion Cymru i astudio mewn prifysgolion yng Nghymru yn hytrach na’u hannog i fynd i Loegr.

Yn dilyn cyhoeddi ffigurau sy’n awgrymu bod llai o fyfyrwyr yn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, mae Dyfodol i’r Iaith am weld y Llywodraeth yn rhoi’r gorau i ariannu myfyrwyr sy’n astudio yn Lloegr, oni bai eu bod yn dilyn cyrsiau nad ydyn nhw ar gael yng Nghymru.

Mae Dyfodol i’r Iaith hefyd am weld cynllun Seren, sy’n targedu disgyblion galluog yng Nghymru, yn canolbwyntio ar annog myfyrwyr i astudio yng Nghymru.

Medd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Mae gan y Llywodraeth darged uchelgeisiol i gynyddu nifer siaradwyr Cymraeg, ond mae rhai o’i pholisïau ei hun wedi milwrio ers blynyddoedd yn erbyn y targed hwn.  Rydyn ni wedi taflu arian at brifysgolion Lloegr wrth anfon ein myfyrwyr atyn nhw, ac mae hyn yn golygu na fydd y myfyrwyr hyn yn astudio dim trwy’r Gymraeg.

Ychwanegodd Mr Gruffudd, “Yn ddiweddar mae Rhwydwaith Seren wedi targedu disgyblion galluog ein hysgolion i’w cael i astudio yn Grŵp Russell y prifysgolion, nad yw ond un ohonyn nhw – Caerdydd – yng Nghymru. Mae hyn yn sarhad ar brifysgolion eraill Cymru, ac yn rhwym o arwain at ostyngiad yn nifer y myfyrwyr sy’n astudio trwy’r Gymraeg.”

“Cymru, hyd y gwn i, yw’r unig wlad yn y byd sydd am weld y rhan fwyaf o’i myfyrwyr yn astudio y tu allan i’w gwlad eu hunain am eu gradd gyntaf.”

DYFODOL I’R IAITH YN LLONGYFARCH YNYS MÔN

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi ysgrifennu at Ynys Môn i longyfarch y Cyngor Sir ar ei benderfyniad i droi iaith weinyddu’r Cyngor i’r Gymraeg. Mae annog gweithluoedd Cymraeg wedi bod yn un o flaenoriaethau polisi Dyfodol i’r Iaith.

Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Mae gwneud y Gymraeg yn iaith naturiol y gweithle’n gam hanfodol wrth i ni sicrhau dyfodol llewyrchus i’r iaith.  Rydyn ni’n canmol y Sir am weithredu’n flaengar.

“Gyda Gwynedd eisoes wedi gwneud hyn, rydyn ni’n edrych ymlaen at weld y Gymraeg yn dod yn brif iaith weinyddu siroedd y gorllewin, o Fôn i Gaerfyrddin. Bydd hyn yn trawsnewid rhagolygon y Gymraeg yn y siroedd hyn.”

“Rydyn ni’n hyderus y bydd y Llywodraeth yn fodlon buddsoddi’n helaeth yn y galwadau hyfforddi iaith fydd yn sail i lwyddiant y newid ieithyddol yma.”