GALW AM BOLISIAU I ANNOG MYFYRWYR CYMRU I ASTUDIO YM MHRIFYSGOLION CYMRU

Mae Dyfodol i’r Iaith yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau pendant i annog disgyblion Cymru i astudio mewn prifysgolion yng Nghymru yn hytrach na’u hannog i fynd i Loegr.

Yn dilyn cyhoeddi ffigurau sy’n awgrymu bod llai o fyfyrwyr yn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, mae Dyfodol i’r Iaith am weld y Llywodraeth yn rhoi’r gorau i ariannu myfyrwyr sy’n astudio yn Lloegr, oni bai eu bod yn dilyn cyrsiau nad ydyn nhw ar gael yng Nghymru.

Mae Dyfodol i’r Iaith hefyd am weld cynllun Seren, sy’n targedu disgyblion galluog yng Nghymru, yn canolbwyntio ar annog myfyrwyr i astudio yng Nghymru.

Medd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Mae gan y Llywodraeth darged uchelgeisiol i gynyddu nifer siaradwyr Cymraeg, ond mae rhai o’i pholisïau ei hun wedi milwrio ers blynyddoedd yn erbyn y targed hwn.  Rydyn ni wedi taflu arian at brifysgolion Lloegr wrth anfon ein myfyrwyr atyn nhw, ac mae hyn yn golygu na fydd y myfyrwyr hyn yn astudio dim trwy’r Gymraeg.

Ychwanegodd Mr Gruffudd, “Yn ddiweddar mae Rhwydwaith Seren wedi targedu disgyblion galluog ein hysgolion i’w cael i astudio yn Grŵp Russell y prifysgolion, nad yw ond un ohonyn nhw – Caerdydd – yng Nghymru. Mae hyn yn sarhad ar brifysgolion eraill Cymru, ac yn rhwym o arwain at ostyngiad yn nifer y myfyrwyr sy’n astudio trwy’r Gymraeg.”

“Cymru, hyd y gwn i, yw’r unig wlad yn y byd sydd am weld y rhan fwyaf o’i myfyrwyr yn astudio y tu allan i’w gwlad eu hunain am eu gradd gyntaf.”

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *