Araith Heini Gruffudd i gyfarfod Lansio Dyfodol i’r Iaith ar faes Eisteddfod Genedlaethol 2012

Diolch i bawb am ddod yma heddiw, naill ai i gefnogi neu o chwilfrydedd. Mae’n werth pwysleisio mai rhyw fath o gyflwr lled-rithiol sy gan Dyfodol i’r Iaith ar hyn o bryd. Mae’r syniad wedi bod yno ers blwyddyn neu ragor. Mae rhai wedi mentro dod at ei gilydd i roi ffurf i’r syniad, ac yn y lle cynta, fy rôl i oedd gwneud coffi. Does dim uchelgais gan neb sydd wrthi ar hyn o bryd i wneud mwy na gwneud coffi. Ar ôl y cyfarfod hwn, ac ar ôl cael cefnogwyr at ei gilydd, y gobaith yw cynnal cyfarfod cyffredinol ym mis Hydref i lansio Dyfodol i’r Iaith yn fudiad cyflawn. Wedyn galla i fynd yn ôl i wneud coffi.
Ond tair stori fach yn y cyfamser.

Ffurfio Mudiad Iaith Newydd – 16/07/2012

Cafodd mudiad newydd ei ffurfio heddiw i bwyso dros yr iaith Gymraeg. Fe fydd “Dyfodol i’r Iaith” yn fudiad annibynnol, amhleidiol fydd yn sicrhau bod y Gymraeg yn rhan ganolog o fywyd sifig a chymunedol Cymru.

Amcan Dyfodol yw dylanwadu drwy dduliau cyfansoddiadol ar sylwedd a chynnwys polisïau cyhoeddus a deddfwriaeth er mwyn hybu twf a llwyddiant y Gymraeg. Mae’r mudiad wedi ymrwymo i weithredu’n gyfangwbl gyfansodiadol ac ni fydd yn arddel tor-cyfraith.

Cyfarfod Cyffredinol Cyntaf – 20fed o Hydref

Fe fydd Cyfarfod Cyffredinol cyntaf mudiad Dyfodol i’r Iaith yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn yr 20fed o Hydref yng Nghanolfan Arad Goch, Aberystwyth.

Bydd y cyfarfod yn dechrau am 11 y bore ac yn para tan tua hanner awr wedi tri.

Y cadeirydd fydd Angharad Mair ac ymhlith y siaradwyr bydd yr Athro Richard Wyn Jones.  Sesiwn ar lobïo o dan ofal Dr Elin Royles.

Croeso i bawb a chyfle i bwy bynnag sydd heb ymaelodi â Dyfodol wneud hynny yn y fan a’r lle.  Aelodau llawn yn unig fydd â’r hawl i bleidleisio ar gynigion ffurfiol.