Y Gynhadledd Fawr

Argraffiadau Llywydd Dyfodol, Bethan Jones Parry, o’r Gynhadledd Fawr gyda’r Prif Wenidog Carwyn Jones, yn Aberystwyth ar Orffennaf 4ydd

‘Proses nid digwyddiad’ – mae’r geiriau yma bellach wedi ennill eu lle fel hen drawiad cyfoes. Fe wnaeth Carwyn Jones gydnabod yr union beth wrth agor Iaith Fyw: Y Gynhadledd Fawr yn Aberystwyth ond doedd o ddim yn ymddiheuro am wneud hynny.

Dywedodd wrth y 150 o gynrychiolwyr oedd yno bod angen ystyried y gynhadledd yn y cyd-destun yma “er mwyn sicrhau dyfodol i’r Gymraeg” gan ychwanegu bod taer angen cychwyn trafodaeth fel hyn er mwyn dod o hyd i ffyrdd newydd o gryfhau a datblygu’r iaith.

Roedd y cynrychiolwyr yno trwy wahoddiad  – camgymeriad yn ôl rhai, er bod nifer yn dilyn y cyfan ar-lein gan gyfrannu eu sylwadau trwy drydar. Parhau i ddarllen

Croesawu newid yn y Cabinet

Mae mudiad iaith Dyfodol yn croesawu’r ffaith mai’r Prif Weinidog, Carwyn Jones fydd bellach yn gyfrifol am yr iaith Gymraeg yn Llywodraeth Cymru.  Fe fydd hyn yn rhoi statws i’r iaith ar draws holl waith y llywodraeth. Mae Dyfodol yn gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn rhoi arweiniad i’w weinidogion yn y cabinet parthed yr iaith.

Dywedodd Cadeirydd Dyfodol, Heini Gruffudd, “Mae angen ystyried lle’r iaith Gymraeg ar draws pob un o feysydd gwaith y llywodraeth, o’r economi i gynllunio, o addysg i iechyd, o dai i gymunedau.  O roi cyfrifoldeb am y Gymraeg o fewn swyddfa’r Prif Weinidog rydym yn ffyddiog y bydd yr iaith yn cael sylw teilwng.”

Mae Dyfodol yn edrych mlaen i drefnu cyfarfod buan gyda Carwyn Jones i drafod materion yn ymwneud a’r iaith Gymraeg.