Y Gynhadledd Fawr

Argraffiadau Llywydd Dyfodol, Bethan Jones Parry, o’r Gynhadledd Fawr gyda’r Prif Wenidog Carwyn Jones, yn Aberystwyth ar Orffennaf 4ydd

‘Proses nid digwyddiad’ – mae’r geiriau yma bellach wedi ennill eu lle fel hen drawiad cyfoes. Fe wnaeth Carwyn Jones gydnabod yr union beth wrth agor Iaith Fyw: Y Gynhadledd Fawr yn Aberystwyth ond doedd o ddim yn ymddiheuro am wneud hynny.

Dywedodd wrth y 150 o gynrychiolwyr oedd yno bod angen ystyried y gynhadledd yn y cyd-destun yma “er mwyn sicrhau dyfodol i’r Gymraeg” gan ychwanegu bod taer angen cychwyn trafodaeth fel hyn er mwyn dod o hyd i ffyrdd newydd o gryfhau a datblygu’r iaith.

Roedd y cynrychiolwyr yno trwy wahoddiad  – camgymeriad yn ôl rhai, er bod nifer yn dilyn y cyfan ar-lein gan gyfrannu eu sylwadau trwy drydar.

Roedd y gynhadledd heb os wedi ei threfnu’r i’r eiliad olaf ond wrth geisio cywasgu trafodaeth ar faterion fel yr economi, addysg, cynllunio, codi ymwybyddiaeth a hyder i ddwy sesiwn o hyd at dri chwarter awr (prin) roedd sawl un – a minnau yn eu plith – yn credu bod y cyfan fel ceisio tywallt môr Iwerydd i bot peint.

Cafwyd cyfle i ofyn cwestiwn trwy ei ysgrifennu ar bapur, a’r cwestiynau yn cael eu dethol wedyn gan rhywun cyn eu cyflwyno gan Rhodri Llwyd Morgan i’r panelwyr.

Do, fe ofynnwyd cwestiynau am TAN 20, am gynllunio’n gyffredinol, am ddarpariaeth chwaraeon trwy gyfrwng y Gymraeg, am safonau a hyd yn oed am sut mae modd harneisio llwyddiant y Cymry sy’n aelodau o garafn y Llewod er mwyn yr iaith – ond chafwyd ddim trafodaeth. Doedd yna ddim lle i sylwadau.

Prif bwrpas y gynhadledd i mi oedd cael cyfle i weld ac i wrando ar y Prif Weinidog Carwyn Jones wrth iddo gychwyn ar ei waith newydd fel deilydd portffolio’r Gymraeg oddi mewn i’r Llywodraeth.

Fe arhosodd yn y gynhadledd trwy gydol y dydd. Heb fod yn goeglyd, rhaid cydnabod bod hynny yn rhywbeth anarferol iawn yn hanes gweinidogion fel arfer, hyd yn oed os ydyn nhw yn gyfrifol am y maes dan sylw, ac wrth alw ar Brif Weithredwyr a phenaethiaid eraill i gymryd y cyfrifoldeb am hyrwyddo’r iaith o fewn eu cyrff a’u sefydliadau roedd rhywun yn cael yr argraff ei fod wirioneddol o ddifrif am geisio gwneud gwahaniaeth.

Fe fydd yna “gamau nesa” medda fo wrth ddirwyn y gynhadledd i ben a phwysleisiodd ei bod yn hynod bwysig “ein bod ni’n symud ymlaen.”

Felly beth yn union oedd Iaith Fyw: Y Gynhadledd Fawr? Siop siarad un-dydd yntau digwyddiad o bwys? Amser a ddengys. A dyna i chi hen drawiad arall.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *