CYFARFOD CYHOEDDUS LLANDEILO

Cofiwch am ein cyfarfod Cyhoeddus nesaf a gynhelir nos Lun 26ain o Fawr am 7 yn y Cottage Inn ger Llandeilo, gydag Elinor Jones, Heini Gruffudd a Cynog Dafis.

Bydd hwn yn gyfle gwych i drafod materion yn ymwneud â’r Gymraeg yn eich ardal, yn ogystal â chlywed barn Dyfodol ynglŷn â’r cyfleoedd a’r heriau i Gymraeg dros y blynyddoedd nesaf.

Nodwch y dyddiad, a dewch draw i wrando a thrafod. Cewch groeso cynnes a digon i gnoi cil drosto!

The Cottage Inn ger Llandeilo

DYFODOL I’R IAITH YN CROESAWU FFLUR I’R BWRDD

Fflur

Mae Dyfodol i’r Iaith yn falch iawn o gael croesawu Fflur Arwel i ymuno â Bwrdd Rheoli’r Mudiad. Fel aelod cyfetholedig o’r Bwrdd hwn, bydd Fflur yn cyfrannu at ddatblygu a phennu blaenoriaethau’r mudiad iaith. Edrychai Dyfodol ymlaen at gydweithio â hi, gan fanteisio ar ei brwdfrydedd, gweledigaeth ac arbenigedd wrth lobïo dros les y Gymraeg.

Daw Fflur o Ddinas ger Caernarfon yn wreiddiol, ond mae hi bellach yn byw yn Aberystwyth ac yn gweithio i wasg Y Lolfa fel Pennaeth Marchnata.

Dywedodd Fflur:

“Rwyf ar ben fy nigon yn ymuno a bwrdd Dyfodol i’r Iaith. Mae gennyf edmygedd a pharch mawr at y mudiad sydd yn gwneud gymaint o waith gwych tuag at sicrhau dyfodol ffyniannus i’r Gymraeg yng Nghymru. Rwyf yn edrych ymlaen at gydweithio gyda’r bwrdd gan gyfrannu at y gwaith arbennig”

 

DYFODOL YN GALW AM FYNEDIAD RHWYDD I DDATA ADDYSG ALLWEDDOL

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi datgan pryder ynglŷn ag argymhelliad fyddai’n ei gwneud yn anoddach i gadw llygaid ar berfformiad awdurdodau lleol wrth ddatblygu addysg cyfrwng Cymraeg yn eu hardaloedd.

Mae’r ddogfen ymgynghori Rheoliadau Addysg (Asesiadau Athrawon) yn argymell peidio â chyhoeddi data ar iaith asesiadau addysg ar wefan StatsCymru, a byddai hyn yn gorfodi’r sawl sydd am wybodaeth orfod craffu Cynlluniau unigol, neu wneud cais drwy’r broses Rhyddid Gwybodaeth.

Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol:

“ Mae ehangu addysg Gymraeg yn hollbwysig os ydym am sicrhau twf yr iaith. Rhaid cael strwythurau cadarn i osod targedau a monitro pob agwedd o’r gwaith, ac afraid dweud ei bod yn hanfodol sicrhau’n ogystal fod yr holl brosesau hyn yn dryloyw a hygyrch. Rydym o’r un farn â Statiaith, mai cam niweidiol iawn fyddai amharu mewn unrhyw ffordd ar y gallu i gadw llygaid ar berfformiad a chynnydd awdurdodau lleol mewn perthynas ag addysg Gymraeg; ac yn enwedig felly, gan fod gweithredu tuag at dwf mor angenrheidiol ym maes addysg, a gofynion Strategaeth y Gymraeg y Llywodraeth ei hun mor heriol.”