CYFARFOD CYHOEDDUS ABERYSTWYTH 24/04/18 – NEGES DYFODOL

Mae Dyfodol i’r Iaith yn edrych ymlaen at weld y Llywodraeth yn sefydlu corff annibynnol i hyrwyddo’r Gymraeg.  Bydd y corff, pan gaiff ei sefydlu, yn rhoi blaenoriaeth i weithredu cynlluniau iaith ar sail egwyddorion cydnabyddedig cynllunio ieithyddol.  Dyna neges Cynog Dafis mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn Aberystwyth ddiwedd Ebrill.

Er bod camau wedi’u cymryd ym maes hawliau unigolion dros y pum mlynedd diwethaf, mae hi’n bwysig bod defnydd o’r Gymraeg yn cael ei hyrwyddo yn y cartref, yn y gymuned, ac ym myd gwaith.  Nid mater i ddeddfu yn ei gylch yw hyn, ond testun gweithredu cadarnhaol gan y llywodraeth ar lawr gwlad.

Mae angen ystyried sut gall siroedd gorllewin Cymru gyfuno i roi polisïau llesol i’r Gymraeg ar waith.  Byddai hyn yn cynnwys twf economaidd a chynllunio tai yn ogystal â chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg fel iaith gwaith mewn awdurdodau lleol a chyrff eraill.

Er bod cynnydd wedi’i wneud o ran statws y Gymraeg ar hyd y blynyddoedd, yr angen mawr yw cryfhau’r Gymraeg yn y cartref, yn y gymuned ac mewn addysg.  Y tri maes yma yw’r conglfeini ar gyfer sicrhau twf yn niferoedd siaradwyr ac yn y defnydd o’r Gymraeg yn y dyfodol.

TESTUNAU TRAFOD CYFARFOD CYHOEDDUS LLANDEILO

Diolch i bawb a ddaeth draw i’r Cottage Inn ger Llandeilo nos Lun 26ain o Fawrth. Cafwyd trafodaethau bywiog, a gobeithio i chwi fwynhau’r cyfarfod, a chael digon o waith cnoi cil dros ein syniadau.

Cyflwynodd Cynog Dafis a Heni Gruffudd yr achos dros gael Awdurdod Iaith i Gymru; corff grymus i hyrwyddo’r Gymraeg a llunio cynlluniau i’w hadfywio ar lefel genedlaethol ac yn y gymuned. Yn sicr, roedd trafodaethau’r noson yn cadarnhau’r angen am gorff o’r math, gyda throsolwg eang ar holl faterion polisi sy’n ymwneud â’r Gymraeg.

Bu’r cwestiwn, addysg Gymraeg neu addysg ddwyieithog yn destun trafod. Meddai’r Cynghorydd Cefin Campbell fod Sir Gâr yn bwriadu, gydag amser, i gael gwared o ysgolion Saesneg y Sir a sefydlu ysgolion dwyieithog yn eu lle a throi’r ysgolion dwy ffrwd yn ysgolion Cymraeg.

Maes trafod arall oedd tai a chynllunio. Dywedwyd fod amcangyfrifon am nifer y tai ar gyfer Sir Gâr ymhell y tu hwnt i’r angen. Ar y llaw arall, roedd angen tai cymdeithasol ar gyfer pobl ifanc a hefyd i ddatrys digartrefedd.

Diolch o galon unwaith eto i bobl Llandeilo a’r cylch am eich gwrandawiad a’ch sylwadau. Gwerthfawrogwn yn arw’r cyfleoedd hyn i gwrdd a thrafod a chwi. Byddwn yn cyhoeddi cyfarfodydd pellach maes o law.

P1010871 P1010872