GOBAITH NEWYDD I’R GYMRAEG

Dyma fydd thema cyfarfod cyhoeddus a gynhelir ar nos Lun y 26ain o Fawrth am 7 o’r gloch yn y Cottage Inn ger Llandeilo. Siaradwyr y cyfarfod fydd y darlledydd Elinor Jones, Heini Gruffudd (Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith) a Cynog Dafis (cyn-AS ac aelod o Fwrdd Dyfodol i’r Iaith).

Mae’r cyfarfod hwn yn rhan o raglen Dyfodol i’r Iaith i gynnal cyfarfodydd ledled Cymru. Un nod yw cael gwybodaeth gan bobl leol: beth sy’n helpu’r iaith yn lleol? Beth yw’r heriau?

Nod arall yw cyflwyno sut mae Dyfodol i’r Iaith am weld pethau’n digwydd.  Rydyn ni am roi blaenoriaeth i hyrwyddo’r iaith yn y gymdeithas, yn y cartref ac yn y gwaith, fel bod mwy o siaradwyr Cymraeg yn cael cyfle i ddefnyddio’r iaith.

Ar hyn o bryd, ac efallai ers hanner canrif, mae’r prif bwyslais wedi’i roi ar ennill statws i’r Gymraeg ac ar hawliau unigolion. Erbyn hyn mae’n rhaid newid y pwyslais, i ganolbwyntio ar greu cyfleoedd i siaradwyr Cymraeg ddefnyddio’r iaith.

Ers ei sefydlu 5 mlynedd yn ôl mae Dyfodol i’r Iaith gweld llawer o’i gynigion yn cael eu derbyn, gan gynnwys:

  • Sefydlu dwsin o Ganolfannau Cymraeg
  • Sefydlu canolfan genedlaethol Cymraeg i Oedolion
  • Rhoi lle i’r Gymraeg yn y ddeddf Cynllunio
  • Sefydlu ail sianel radio
  • £2 filiwn i hyrwyddo’r Gymraeg

Y peth nesaf mawr o bwys fydd gweld y llywodraeth yn sefydlu corff a fydd yn gyfrifol am arwain cynllunio iaith a hyrwyddo’r iaith. Dyma destun y papur gwyn y mae’r llywodraeth wedi’i baratoi.  Rydyn ni’n gobeithio y caiff y corff hwn ei sefydlu erbyn 2020.

Y pwnc mawr dros yr ugain mlynedd nesaf yw cael mwy o siaradwyr Cymraeg, a’r un mor bwysig yw ei gwneud hi’n hawdd i bobl ddefnyddio’r iaith.

Fydd hyn ddim yn digwydd heb gynllunio gofalus, a gweithredu creadigol.  Ddaw hyn ddim yn y drefn bresennol, lle mae newidiadau gwleidyddol yn gallu torri ar draws cynlluniau.  A ddaw hi ddim tra bod cymaint o awdurdodau lleol a chyrff eraill yn llaesu dwylo.

I ddylanwadu ar y llywodraeth, fel corff lobio cyfrifol, mae ar Dyfodol i’r Iaith angen cefnogwyr, a bydd denu cefnogwyr ac aelodau, wrth gwrs, yn nod arall i’r cyfarfod.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at gydweithio cadarn a chreadigol.

The Cottage Inn ger Llandeilo

CYFARFOD CYHOEDDUS LLANDEILO

Cofiwch am ein cyfarfod Cyhoeddus nesaf a gynhelir nos Lun 26ain o Fawr am 7 yn y Cottage Inn ger Llandeilo, gydag Elinor Jones, Heini Gruffudd a Cynog Dafis.

Bydd hwn yn gyfle gwych i drafod materion yn ymwneud â’r Gymraeg yn eich ardal, yn ogystal â chlywed barn Dyfodol ynglŷn â’r cyfleoedd a’r heriau i Gymraeg dros y blynyddoedd nesaf.

Nodwch y dyddiad, a dewch draw i wrando a thrafod. Cewch groeso cynnes a digon i gnoi cil drosto!

The Cottage Inn ger Llandeilo

DYFODOL I’R IAITH YN CROESAWU FFLUR I’R BWRDD

Fflur

Mae Dyfodol i’r Iaith yn falch iawn o gael croesawu Fflur Arwel i ymuno â Bwrdd Rheoli’r Mudiad. Fel aelod cyfetholedig o’r Bwrdd hwn, bydd Fflur yn cyfrannu at ddatblygu a phennu blaenoriaethau’r mudiad iaith. Edrychai Dyfodol ymlaen at gydweithio â hi, gan fanteisio ar ei brwdfrydedd, gweledigaeth ac arbenigedd wrth lobïo dros les y Gymraeg.

Daw Fflur o Ddinas ger Caernarfon yn wreiddiol, ond mae hi bellach yn byw yn Aberystwyth ac yn gweithio i wasg Y Lolfa fel Pennaeth Marchnata.

Dywedodd Fflur:

“Rwyf ar ben fy nigon yn ymuno a bwrdd Dyfodol i’r Iaith. Mae gennyf edmygedd a pharch mawr at y mudiad sydd yn gwneud gymaint o waith gwych tuag at sicrhau dyfodol ffyniannus i’r Gymraeg yng Nghymru. Rwyf yn edrych ymlaen at gydweithio gyda’r bwrdd gan gyfrannu at y gwaith arbennig”