Datganiad y Prif Weinidog

HONNI BOD Y PRIF WEINIDOG YN ANWYBYDDU’R GYNHADLEDD FAWR

Mae Dyfodol i’r Iaith yn honni bod y Prif Weinidog yn anwybyddu prif gasgliadau’r Gynhadledd Fawr ar yr iaith, a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf eleni.

“Y brif her i’r Gymraeg yn ôl y Gynhadledd yw symud poblogaeth, a bod angen polisïau economaidd, polisïau tai a chynllunio, polisïau addysg a pholisïau datblygu cymunedol i ymateb i’r her,” medd Heini Gruffudd, cadeirydd Dyfodol i’r Iaith.

Mae Dyfodol i’r Iaith yn gofidio nad yw datganiad y Prif Weinidog ar 12fed Tachwedd yn gwneud dim i ymateb i’r brif her hon.

Mae Dyfodol yr Iaith yn honni ymhellach bod datganiad y Prif Weinidog yn cynnwys ailadrodd hen bolisïau’r Llywodraeth sydd wedi’u cyhoeddi’n barod, cyn y Gynhadledd Fawr.

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi ysgrifennu ato i gael eglurhad ar y datganiad. Llythyr i’r Prif Weinidog      Parhau i ddarllen

Cyfarfod a’r Prif Weinidog

Cafodd Dyfodol gyfarfod buddiol iawn gyda’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Llun Awst y 5ed.

Gofynnodd Dyfodol i’r Prif Weinidog am gynnwys y Gymraeg ar glawr y Bil Cynllunio arfaethedig. Bu Carwyn Jones yn sgwrsio gyda Llywydd y mudiad, Bethan Jones Parry; y Cadeirydd, Heini Gruffudd a’r Ysgrifennydd, Simon Brooks.

Cyflwynodd y mudiad ddogfen i Carwyn Jones am y berthynas rhwng  cynaliadwyedd y Gymraeg a chynllunio.

Cynllunio a’r Gymraeg  

Mae cynaliadwyedd y Gymraeg yn rhan annatod o faes cynllunio. Oherwydd hyn mae angen datblygu fframwaith cadarn fydd yn gallu asesu effaith datblygiadau cynllunio ar y Gymraeg. Mae yna lawer o enghreifftiau o ddatblygiadau sydd wedi arwain at wanhau’r Gymraeg fel iaith gymdeithasol. Ac eto, ceir esiamplau o gynllunio sydd wedi cryfhau sefyllfa’r Gymraeg. Parhau i ddarllen

Croesawu newid yn y Cabinet

Mae mudiad iaith Dyfodol yn croesawu’r ffaith mai’r Prif Weinidog, Carwyn Jones fydd bellach yn gyfrifol am yr iaith Gymraeg yn Llywodraeth Cymru.  Fe fydd hyn yn rhoi statws i’r iaith ar draws holl waith y llywodraeth. Mae Dyfodol yn gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn rhoi arweiniad i’w weinidogion yn y cabinet parthed yr iaith.

Dywedodd Cadeirydd Dyfodol, Heini Gruffudd, “Mae angen ystyried lle’r iaith Gymraeg ar draws pob un o feysydd gwaith y llywodraeth, o’r economi i gynllunio, o addysg i iechyd, o dai i gymunedau.  O roi cyfrifoldeb am y Gymraeg o fewn swyddfa’r Prif Weinidog rydym yn ffyddiog y bydd yr iaith yn cael sylw teilwng.”

Mae Dyfodol yn edrych mlaen i drefnu cyfarfod buan gyda Carwyn Jones i drafod materion yn ymwneud a’r iaith Gymraeg.