Datganiad y Prif Weinidog

HONNI BOD Y PRIF WEINIDOG YN ANWYBYDDU’R GYNHADLEDD FAWR

Mae Dyfodol i’r Iaith yn honni bod y Prif Weinidog yn anwybyddu prif gasgliadau’r Gynhadledd Fawr ar yr iaith, a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf eleni.

“Y brif her i’r Gymraeg yn ôl y Gynhadledd yw symud poblogaeth, a bod angen polisïau economaidd, polisïau tai a chynllunio, polisïau addysg a pholisïau datblygu cymunedol i ymateb i’r her,” medd Heini Gruffudd, cadeirydd Dyfodol i’r Iaith.

Mae Dyfodol i’r Iaith yn gofidio nad yw datganiad y Prif Weinidog ar 12fed Tachwedd yn gwneud dim i ymateb i’r brif her hon.

Mae Dyfodol yr Iaith yn honni ymhellach bod datganiad y Prif Weinidog yn cynnwys ailadrodd hen bolisïau’r Llywodraeth sydd wedi’u cyhoeddi’n barod, cyn y Gynhadledd Fawr.

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi ysgrifennu ato i gael eglurhad ar y datganiad. Llythyr i’r Prif Weinidog     

Mae Dyfodol i’r Iaith yn honni bod materion fel Cynllun Gwelliant Mewnol y Llywodraeth (ar y Gymraeg), paratoi canllawiau i gefnogi TAN20 ac arian i raglenni TG Cymraeg eisoes wedi’u cychwyn neu eu cyhoeddi, ac nad oedden nhw mewn gwirionedd yn codi o’r Gynhadledd Fawr. Mae Dyfodol yr Iaith hefyd yn gofyn i’r Prif Weinidog faint o ymgynghori a fu gyda’r Cyngor Partneriaeth y Gymraeg, sydd â rôl statudol yng nghyswllt ei gynghori ar ei strategaeth iaith, cyn cyhoeddi ei ddatganiad.

Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Mae’n ymddangos bod datganiad y Prif Weinidog yn ymwneud mwy â cheisio rhoi gwedd gyhoeddus gadarnhaol na symud pethau ymlaen.

“Dydyn ni ddim am ddadlau â’r camau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cyhoeddi heddiw, ond rhaid dweud ein bod wedi’n siomi mai hen ddatganiadau wedi’u hailwampio yw llawer o’r hyn sydd ganddo.

“Rydyn ni’n gwerthfawrogi ymwybyddiaeth bod angen i’r Llywodraeth wneud rhagor, ond mae’n rhaid i ni weld polisïau a gweithredu llawer ehangach a radical yn y meysydd allweddol os ydyn ni am weld unrhyw obaith o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, ac o gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg gan siaradwyr Cymraeg”.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *