SAFONAU IAITH A MUDIADAU SY’N DERBYN NAWDD CYHOEDDUS

Mae Dyfodol i’r Iaith yn galw am ddod a’r Safonau Iaith i rym cyn gynted â phosib i sefydliadau sy’n derbyn dros £400,000 o nawdd cyhoeddus. Yn y cyfamser, mae’r mudiad hefyd yn galw ar i Gomisiynydd y Gymraeg weithredu hyd eithaf ei phwerau i sicrhau ymrwymiad i’r Gymraeg gan sefydliadau o’r math.
Yn dilyn y cwynion diweddar ynglŷn â darpariaeth ieithyddol Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, cysylltodd Dyfodol â Chomisiynydd y Gymraeg, a chael ar wybod mai statws “gwirfoddol” sydd i Gynllun Iaith y sefydliad ar hyn o bryd. Golygai hyn na fydd yn statudol ofynnol iddynt ymrwymo i osgoi trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg tan i’r Safonau Iaith ddod i rym. Ar hyn o bryd, ni rhagwelir y bydd hyn yn digwydd am rai misoedd.
Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith:
“Mae’r Ardd Fotaneg yn sefydliad cenedlaethol a enwir ym Mesur y Gymraeg, ac eto, does dim rheidrwydd arnynt wneud dim tu hwnt i’w gwirfodd ar hyn o bryd. Dengys hyn yr angen i fwrw mlaen gyda’r Safonau Iaith.
Yn y cyfamser, galwn ar i Gomisiynydd y Gymraeg bwyso ar sefydliadau o’r math i gynllunio a darparu gwasanaethau Cymraeg i’w defnyddwyr. Byddai hyn yn unol ag egwyddorion y gyfraith ac yn gymhelliant i sefydliadau ddarparu ar unwaith ar gyfer gofynion y Safonau Iaith.”

DYFODOL YN CEFNOGI SEFYDLU AWDURDOD IAITH

Mae angen cael awdurdod iaith fydd yn arwain y gwaith o adfywio’r Gymraeg. Dyna honiad Dyfodol i’r Iaith yn dilyn galwad Gareth Jones am sefydlu corff o’r fath.

Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Rydyn ni ers yr haf wedi galw am gorff o’r fath.  Daeth yn fwyfwy amlwg bod angen trefn newydd a fydd ar y naill law yn gwarchod y Gymraeg, fel y caiff yr amgylchedd ei gwarchod, ond trefn a fydd ar y llaw arall yn mapio dyfodol llewyrchus i’r iaith.”

“Er pob ewyllys da o du’r Llywodraeth, daeth yn amlwg bod penderfyniadau tameidiog yn cael eu gwneud, ac nad oes cyswllt yn aml rhyngddyn nhw.  Mae angen polisïau ar draws adrannau’r Llywodraeth sy’n cysylltu â’i gilydd ac sy’n hyrwyddo’r Gymraeg yn greadigol.”

“Dyw trefniadaeth y Comisiynydd – er mor werthfawr yw hyn – nac ewyllys da gweision sifil ddim eto wedi gosod system sy’n gwneud gwahaniaeth i’r Gymraeg. Mae cael awdurdod iaith, wedi’i redeg gan arbenigwyr mewn cynllunio iaith, a gyda mwy o bwerau na hen Fwrdd yr Iaith, yn angenrheidiol.”

“Bydd gwaith yr Awdurdod yn ymwneud â chael y Gymraeg yn iaith gwaith awdurdodau lleol, gosod rhaglen twf uchelgeisiol i’r system addysg, hyrwyddo gweithgareddau pobl ifanc, a chryfhau Cymraeg i Oedolion ymysg materion eraill.”

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at argyhoeddi’r pleidiau gwleidyddol bod hyn yn fater o flaenoriaeth i’r Cynulliad ac i’r iaith.”