DYFODOL YN CEFNOGI SEFYDLU AWDURDOD IAITH

Mae angen cael awdurdod iaith fydd yn arwain y gwaith o adfywio’r Gymraeg. Dyna honiad Dyfodol i’r Iaith yn dilyn galwad Gareth Jones am sefydlu corff o’r fath.

Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Rydyn ni ers yr haf wedi galw am gorff o’r fath.  Daeth yn fwyfwy amlwg bod angen trefn newydd a fydd ar y naill law yn gwarchod y Gymraeg, fel y caiff yr amgylchedd ei gwarchod, ond trefn a fydd ar y llaw arall yn mapio dyfodol llewyrchus i’r iaith.”

“Er pob ewyllys da o du’r Llywodraeth, daeth yn amlwg bod penderfyniadau tameidiog yn cael eu gwneud, ac nad oes cyswllt yn aml rhyngddyn nhw.  Mae angen polisïau ar draws adrannau’r Llywodraeth sy’n cysylltu â’i gilydd ac sy’n hyrwyddo’r Gymraeg yn greadigol.”

“Dyw trefniadaeth y Comisiynydd – er mor werthfawr yw hyn – nac ewyllys da gweision sifil ddim eto wedi gosod system sy’n gwneud gwahaniaeth i’r Gymraeg. Mae cael awdurdod iaith, wedi’i redeg gan arbenigwyr mewn cynllunio iaith, a gyda mwy o bwerau na hen Fwrdd yr Iaith, yn angenrheidiol.”

“Bydd gwaith yr Awdurdod yn ymwneud â chael y Gymraeg yn iaith gwaith awdurdodau lleol, gosod rhaglen twf uchelgeisiol i’r system addysg, hyrwyddo gweithgareddau pobl ifanc, a chryfhau Cymraeg i Oedolion ymysg materion eraill.”

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at argyhoeddi’r pleidiau gwleidyddol bod hyn yn fater o flaenoriaeth i’r Cynulliad ac i’r iaith.”

1 sylw ar “DYFODOL YN CEFNOGI SEFYDLU AWDURDOD IAITH

  1. Mae llawer o son am y city regions bellach – ‘Metro Caerdydd’ a ‘Swansea Bay’. Hyd y gwelaf a chlywaf does dim son am y Gymraeg fel ased, sgil na hyd yn oed rhan o brandio nac addysg. Yn wir, y teimlad gaf yw fod yr holl gysyniad yn un i osgoi cyfrifoldeb democrataidd ac osgoi’r iaith Gymraeg.

    Ydy Dyfodol i’r Iaith wedi cael unrhyw gyfarfodydd gyda lladmeryddion y ceisiadau a’r polisiau yma?

    Rhan o lwyddiant y Fasgeg yw ei bod yn rhan o ardal economaidd dwy neu dai dinas sylweddol (Bilbao, Donostia, Vitoria-Gasteiz). Mae pobl yn ifanc yn gweld gwerth dysgu’r iaith achos ei bod yn cael ei defnyddio a’i hyrwyddo o fewn ardaloaedd a peuodd economaidd y dinasoedd yma. Neges y city regions yma, hyd y gwelaf, yw nid yn unig nad yw’r Gymraeg yn bwysig ond fod y Gymraeg yn mherthnasol neu hyd yn oed yn wrth-economaidd.

    Beth yw’r sefyllfa parthed yr iaith a’r city regions?

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi.