ARFOR – DIWYLLIANT YW’R ALLWEDD: ANERCHIAD ADAM PRICE 26/05/18

Diolch i bawb a fynychodd ein cyfarfod yn y Galeri Caernarfon ar Fai 26ain i glywed Adam Price AC yn trafod ei weledigaeth ar gyfer Arfor. Egwyddor y cynllun hwn yw sefydlu corff partneriaeth ar gyfer y gogledd a’r gorllewin (Môn, Gwynedd, Ceredigion, Caerfyrddin), sef cadarnleoedd y Gymraeg. Gan fod yr ardaloedd hyn yn wynebu’r un heriau a chyfleoedd o safbwynt Iaith, diwylliant a datblygu’r economi, byddai corff fel Arfor yn caniatáu datblygu a chynllunio strategol ar y cyd; ymateb a fyddai’n cydnabod mai diwylliant yw’r allwedd.

Amlinellodd Adam y sefyllfa argyfyngus o allfudo o’r ardaloedd hyn; y bod 117,000 o bobl ifanc wedi gadael y siroedd hyn yn ystod y ddegawd ddiwethaf. Un o’r camau cyntaf i herio hyn, meddai Adam, yw  gweld y Gymraeg fel adnodd, a fyddai’n gallu cyfrannu at dwf economaidd. Yn wir, pwysleisiodd bod hunaniaeth leol gref yn creu sylfaen gadarn ar gyfer adfywio hyfyw.

Gyda chyllid o £2 filiwn i ddatblygu’r syniadau hyn, yr her nawr yw cynllunio strwythur sydd yn gynaliadwy ac addas at yr hirdymor. Gwneud y gorau, chwedl Adam, o’r ” cyfle ar lefel uchel i ail-lunio’r map.” Yn dilyn llunio Cynllun Strategol, a strwythur rheoli, byddai modd datblygu’r posibiliadau – syniadau arloesol megis Trefydd Menter a Banciau Cymunedol, prosiectau isadeiledd (megis trafnidiaeth), yn ogystal â chydlynu a gwneud y gorau o’r ymarfer da sy’n digwydd eisoes ar draws gwahanol sefydliadau a sectorau.

Yn dilyn yr anerchiad, cafwyd cyfle i drafod ymhellach. Trafodwyd cefnogaeth i’r Gymraeg tu hwnt i’w chadarnleoedd, a chytunwyd byddai’n rhaid i’r cynllun ysbrydoli tu hwnt i’w ffiniau, gan hyrwyddo perchnogaeth eang o’r egwyddor.

Gan mai gwrthdroi’r tueddiad i bobl ifanc adael fyddai un o’r amcanion, cytunwyd fod rôl y colegau a Phrifysgolion yr ardal yn hollbwysig, a bod angen anogaeth i bobl ifanc astudio’n lleol, gyda’r bwriad o gyfrannu at yr economi lleol maes o law.

Ymysg y materion eraill a godwyd oedd pwysigrwydd gweithredu pendant – ehangu gweinyddiaeth Gymraeg yn y sector gyhoeddus, er enghraifft. Nodwyd yn ogystal bod angen dathlu’r hyn a gyflawnwyd yn gymunedol eisoes, a gosod hyn fel sail ar gyfer datblygiadau pellach.

CYFARFOD CYHOEDDUS ABERYSTWYTH 24/04/18 – NEGES DYFODOL

Mae Dyfodol i’r Iaith yn edrych ymlaen at weld y Llywodraeth yn sefydlu corff annibynnol i hyrwyddo’r Gymraeg.  Bydd y corff, pan gaiff ei sefydlu, yn rhoi blaenoriaeth i weithredu cynlluniau iaith ar sail egwyddorion cydnabyddedig cynllunio ieithyddol.  Dyna neges Cynog Dafis mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn Aberystwyth ddiwedd Ebrill.

Er bod camau wedi’u cymryd ym maes hawliau unigolion dros y pum mlynedd diwethaf, mae hi’n bwysig bod defnydd o’r Gymraeg yn cael ei hyrwyddo yn y cartref, yn y gymuned, ac ym myd gwaith.  Nid mater i ddeddfu yn ei gylch yw hyn, ond testun gweithredu cadarnhaol gan y llywodraeth ar lawr gwlad.

Mae angen ystyried sut gall siroedd gorllewin Cymru gyfuno i roi polisïau llesol i’r Gymraeg ar waith.  Byddai hyn yn cynnwys twf economaidd a chynllunio tai yn ogystal â chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg fel iaith gwaith mewn awdurdodau lleol a chyrff eraill.

Er bod cynnydd wedi’i wneud o ran statws y Gymraeg ar hyd y blynyddoedd, yr angen mawr yw cryfhau’r Gymraeg yn y cartref, yn y gymuned ac mewn addysg.  Y tri maes yma yw’r conglfeini ar gyfer sicrhau twf yn niferoedd siaradwyr ac yn y defnydd o’r Gymraeg yn y dyfodol.

CYFAFOD CYHOEDDUS: Y GYMRAEG – CROESI FFINIAU’R YSGOL

Cyfarfod Sion Aled Aberystwyth Mk II

Bydd Dyfodol i’r Iaith yn cynnal Cyfarfod Cyhoeddus yng Nghanolfan Arad Goch, Aberystwyth ar ddydd Sadwrn, Mawrth 11 am 11 y.b.

Bydd ein siaradwr gwadd, Sion Aled Owen, yn trafod; Y Gymraeg – Croesi Ffiniau’r Ysgol. Bydd y sgwrs yn seiliedig ar ei ymchwil ar ddefnydd a diffyg defnydd yr iaith gan ddisgyblion ysgolion cyfrwng Cymraeg tu hwnt i’r dosbarth. Elinor Jones, Llywydd Dyfodol fydd yn cadeirio’r sgwrs a’r drafodaeth.

Croeso cynnes i chwi ddod atom i glywed mwy am yr ymchwil allweddol hwn.