ARFOR – DIWYLLIANT YW’R ALLWEDD: ANERCHIAD ADAM PRICE 26/05/18

Diolch i bawb a fynychodd ein cyfarfod yn y Galeri Caernarfon ar Fai 26ain i glywed Adam Price AC yn trafod ei weledigaeth ar gyfer Arfor. Egwyddor y cynllun hwn yw sefydlu corff partneriaeth ar gyfer y gogledd a’r gorllewin (Môn, Gwynedd, Ceredigion, Caerfyrddin), sef cadarnleoedd y Gymraeg. Gan fod yr ardaloedd hyn yn wynebu’r un heriau a chyfleoedd o safbwynt Iaith, diwylliant a datblygu’r economi, byddai corff fel Arfor yn caniatáu datblygu a chynllunio strategol ar y cyd; ymateb a fyddai’n cydnabod mai diwylliant yw’r allwedd.

Amlinellodd Adam y sefyllfa argyfyngus o allfudo o’r ardaloedd hyn; y bod 117,000 o bobl ifanc wedi gadael y siroedd hyn yn ystod y ddegawd ddiwethaf. Un o’r camau cyntaf i herio hyn, meddai Adam, yw  gweld y Gymraeg fel adnodd, a fyddai’n gallu cyfrannu at dwf economaidd. Yn wir, pwysleisiodd bod hunaniaeth leol gref yn creu sylfaen gadarn ar gyfer adfywio hyfyw.

Gyda chyllid o £2 filiwn i ddatblygu’r syniadau hyn, yr her nawr yw cynllunio strwythur sydd yn gynaliadwy ac addas at yr hirdymor. Gwneud y gorau, chwedl Adam, o’r ” cyfle ar lefel uchel i ail-lunio’r map.” Yn dilyn llunio Cynllun Strategol, a strwythur rheoli, byddai modd datblygu’r posibiliadau – syniadau arloesol megis Trefydd Menter a Banciau Cymunedol, prosiectau isadeiledd (megis trafnidiaeth), yn ogystal â chydlynu a gwneud y gorau o’r ymarfer da sy’n digwydd eisoes ar draws gwahanol sefydliadau a sectorau.

Yn dilyn yr anerchiad, cafwyd cyfle i drafod ymhellach. Trafodwyd cefnogaeth i’r Gymraeg tu hwnt i’w chadarnleoedd, a chytunwyd byddai’n rhaid i’r cynllun ysbrydoli tu hwnt i’w ffiniau, gan hyrwyddo perchnogaeth eang o’r egwyddor.

Gan mai gwrthdroi’r tueddiad i bobl ifanc adael fyddai un o’r amcanion, cytunwyd fod rôl y colegau a Phrifysgolion yr ardal yn hollbwysig, a bod angen anogaeth i bobl ifanc astudio’n lleol, gyda’r bwriad o gyfrannu at yr economi lleol maes o law.

Ymysg y materion eraill a godwyd oedd pwysigrwydd gweithredu pendant – ehangu gweinyddiaeth Gymraeg yn y sector gyhoeddus, er enghraifft. Nodwyd yn ogystal bod angen dathlu’r hyn a gyflawnwyd yn gymunedol eisoes, a gosod hyn fel sail ar gyfer datblygiadau pellach.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *