Dyfodol: Llais i’r Iaith? Crynodeb o araith yr Athro Richard Wyn Jones yn y cyfarfod cyffredinol

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi deillio o’r canfyddiad fod yna chwyldro wedi digwydd yng Nghymru dros yr hanner canrif diwethaf o ran sefydliadau gwleidyddol ac agweddau poblogaidd. Adeg traddodi ‘Tynged yr Iaith’ nid oedd yna Swyddfa Gymreig, hyd yn oed, heb sôn am ddeddfwrfa a Llywodraeth Gymreig nerthol.

Ni chafwyd er hynny chwyldro cymesur yn agweddau, trefniadaeth a dulliau y mudiad iaith. Mae’r Cymry Cymraeg yn dal i’w hystyried eu hunain yn ymylol; yn bobl heb eu sefydliadau gwladwriaethol eu hunain. Hyn er gwaetha’r ffaith na fu neb yn fwy creiddiol i’r broses o lunio’r sefydliadau cenedlaethol democrataidd na’r Gymru Gymraeg. Yn wir, eironi chwerw’r sefyllfa bresennol yw ei bod yn anodd meddwl am garfan o bwys ym mywyd Cymru sydd wedi gwneud llai o ddefnydd o’r cyfleon a grëwyd trwy sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru na chefnogwyr yr iaith. Er bod buddiannau myrdd o achosion yn cael eu cynrychioli ym Mae Caerdydd gan wahanol lobïwyr, nid oes unrhyw un yno’n gweithio’n llawn amser yn codi llais o blaid y Gymraeg.

Mae gweledigaeth amgen Dyfodol yn syml. Y nod yw bod yn bresenoldeb cyson, egniol ac effeithiol yn ein sefydliadau gwleidyddol cenedlaethol yn dadlau achos y Gymraeg. Mae ystod eang iawn cyfrifoldebau’r Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru yn gosod her yn ogystal â chreu posibiliadau. A nodi rhaglen ddeddfwriaethol y llywodraeth bresennol yn unig, er mwyn gwneud y mwyaf o’r cyfleon bydd gofyn i Dyfodol allu ymateb ym meysydd cynllunio, datblygu cynaliadwy, addysg, a mwy. Heb sôn am weithio’n galed i sicrhau fod y ‘safonau’ sy’n rhoi cig ar esgyrn Mesur Iaith 2011 yn wirioneddol heriol. Rhaid hefyd ymyrryd yn rhagweithiol i osod syniadau cadarnhaol ar yr agenda gwleidyddol, gan ddefnyddio ystod eang o arbenigedd pobl ar hyd a lled Cymru.

Bydd gwneud hyn oll yn effeithiol yn dibynnu ar greu adnoddau ariannol digonol i allu cyflogi staff proffesiynol a fydd mewn cyswllt dyddiol â gwleidyddion a gweision sifil. Er mwyn ymyrryd yn llwyddiannus yn yr 20 maes polisi datganoledig bydd angen cyflogi 4 neu 5 fel lleiafswm, a sicrhau incwm blynyddol o tua £200,000.

Nid ar chwarae bach y mae cyflawni’r cyfryw weledigaeth. Rhaid i ni fel caredigion y Gymraeg holi cwestiwn di-flewyn-ar-dafod i ni ein hunain: pa werth ariannol yr ydym yn ei roi ar weld lles y Gymraeg yn derbyn ystyriaeth drwyadl a chanolog wrth lunio a gweithredu polisi cyhoeddus yn ein gwlad?

Collwyd cyfleon dirifedi i hybu’r Gymraeg er 1999. Mae sefydlu Dyfodol yn cynnig cyfle i gamu o’r rhigol a chreu mudiad iaith effeithiol a fydd yn fwy cydnaws â chefnogaeth frwd y Gymru Gymraeg i ymreolaeth. Ond ni all y fenter newydd hon lwyddo heb gefnogaeth hael a brwdfrydig caredigion y Gymraeg. Gofynnir yn garedig i chi ystyried pa gyfraniad y gallwch chi ei wneud wrth i Dyfodol geisio rhoi ‘Llais i’r iaith’.

2 sylw ar “Dyfodol: Llais i’r Iaith? Crynodeb o araith yr Athro Richard Wyn Jones yn y cyfarfod cyffredinol

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi.