DENU POBL IFANC I AROS A GWEITHIO YNG NGHYMRU

Mae Dyfodol i’r Iaith yn cefnogi galwad yr economegydd Gerald Holtham am weithredu polisïau i ddenu pobl ifainc i aros a gweithio yng Nghymru.

Meddai Dyfodol, “ Mae’r gwaedlif parhaus o bobl ifainc o Gymru, yn enwedig yr ardaloedd gorllewinol, yn nychu’r Gymraeg ac yn bygwth tanseilio’r gobaith am ei hadfywhau.”

Mewn erthygl yn rhifyn Mehfin o Barn, mae’r Athro Holtham yn tynnu sylw at y ffaith i Gymru ddioddef colled net o 35,000 o bobl 15-29 oed rhwng 2001 a 2019. Cynyddodd y boblogaeth gyfan dros yr un cyfnod drwy fewnfudiad o 107,000.

Meddai Dyfodol, “Mae’r anghydbwysedd yna’n sicr o fod yn fwy yn yr ardaloedd Gorllewinol. Rhaid gweithredu’n gadarn ac ar fyrder i atal y gwaedlif. Dyna pam yr ydyn-ni’n cefnogi galwad yr Athro Holtham am weithredu pecyn o fesurau i wneud Cymru yn wlad ddeniadol i’r ifainc i fyw a gwneud bywioliaeth, gan gynnwys

  • Addysg uwch a phellach am ddim i fyfyrwyr sy’n aros a gweithio yng Nghymru am bum mlynedd ar ôl graddio
  • Dileu dyled bresennol myfyrwyr sy’n cychwyn busnes yng Nghymru a darparu gwasanaeth mentora ar eu cyfer”.

Mae’r Athro Holtham hefyd yn galw am gymorth i bobl ifainc gael cartrefi ac am gyfyngu ar dwf ail gartrefi fel ag  i ostwng pris tai mewn ardaloedd megis Gwynedd.

Ynghylch awgrym yr Athro y dylid hefyd ddenu pobl ifainc o’r tu allan i Gymru er mewn datblygu busnesau, mae Dyfodol yn cydnabod yr achos economaidd dros hynny, ond yn mynnu y dylai ymrwymiad i ddysgu Cymraeg fod ynghlwm wrth gymorth felly, yn enwedig yn yr ardaloedd Gorllewinol.

Mae Dyfodol hefyd am ail-ddatgan ei chefnogaeth

  • i sefydlu Arfor, Asiantaeth gyhoeddus arbennig i’r Gorllewin a fyddai’n cydblethu datblygu economi cynaliadwy a chynllunio twf y Gymraeg
  • gweithredu argymhellion adroddiad Seimon Brooks ar dai gwyliau.

APÊL I AELODAU’R SENEDD NEWYDD DDEFNYDDO’R GYMRAEG

Mae Cynog Dafis, ar ran Dyfodol i’r Iaith, wedi gosod apêl i Aelodau’r Senedd newydd i ddefnyddio’r Gymraeg hyd eithaf eu gallu a’r amgylchiadau wrth fynd o gwmpas eu gwaith. Mewn llythyr agored a gyhoeddwyd yn rhifyn cyfredol y cylchgrawn Golwg, mae’r cyn-Aelod Seneddol a Chynulliad yn galw ar y gwleidyddion i roi dyhead y Llywodraeth i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg ar waith yn ymarferol drwy osod esiampl o ddefnyddio’r Gymraeg mewn bywyd cyhoeddus.

Awgrymir y canllaw canlynol i Aelodau’r Senedd:

  • i siaradwyr rhugl eu Cymraeg, ei defnyddio’n ddieithriad, yn normal a naturiol, yn hy ac yn hyderus, wrth annerch ac ateb y Cymraeg a’r di-Gymraeg fel ei gilydd er mwyn hyrwyddo dwyieithrwydd cydradd
  • i siaradwyr Cymraeg llai rhugl, ei defnyddio’n achlysurol ond yn fwyfwy mynych, gan gofio mai defnydd sy’n gwella meistrolaeth
  • i’r di-Gymraeg, o leiaf ei defnyddio’n symbolaidd ac o bosibl fynd ati i’w dysgu – fel y gwnaeth Glyn Davies a David TC Davies yn y Cynulliad Cenedlaethol cyntaf rhwng 1999 a 2003.

Pwysleisia Cynog Dafis nad ar sail gwroldeb na dyletswydd y dylid ymgymryd â chynyddu eu defnydd o’r Gymraeg, ond yn hytrach mewn ysbryd o: “hyder a balchder – llawenydd, hyd yn oed – yn nhrysor rhyfeddol ein  heniaith”, a thrwy hynny, “ei hyrwyddo a’i gloywi i ateb gofynion oes newydd.”

Dyma’r llythyr yn llawn:

Y Gymraeg yn ein Senedd Genedlaethol

Yn Senedd Cymru, sefydliad dwyieithog yng ngwir ystyr y gair, mae pob cyfleustra i ddefnyddio’r Gymraeg – mewn pwyllgor, yn y sesiwn lawn, ar bapur ac ar sgrîn. Ac mae cyfran anghymesur o’r Aelodau etholedig yn medru’r iaith i raddau amrywiol o rwyddineb a huodledd.

Yr argraff sy gen-i fodd bynnag – heb unrhyw ystadegau i brofi’r pwynt – yw mai ymylol, ac yn sicr nid normal, yw’r defnydd ohoni. Yn gyffredin fe glywn-ni siaradwyr Cymraeg rhugl yn optio am y Saesneg, y lingua franca ryngwladol honno y mae ei lledaeniad yn erydu’r defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg o ddydd i ddydd ac o flwyddyn i flwyddyn.

Gadewch i ni gymryd am funud y bydd y Llywodraeth Lafur newydd yn cymryd y syniad o “filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050” o ddifrif ac yn darparu adnoddau digonol at y gwaith. Beth yw pwynt hynny meddech chi os nad yw defnydd o’r iaith yn cynyddu? Proses fyddai hynny o fwy a mwy bobl yn dewis defnyddio’r Gymraeg yn gynyddol, yn ddieithrad hyd oed lle bo hynny’n ymarferol, yn eu bywydau. Y term technegol yw “gwrthdroi shift iaith”. Creu caseg eira twf y Gymraeg. Nid dim ond ym mryniau Bro Afallon y Gorllewin neu yn nyfodol dychmygedig y miliwn siaradwyr, ond nawr, yma, yn y realiti dwyieithog ffafriol-i’r-Saesneg y mae’r mwyafrif mawr ohonon-ni’n byw ynddo o ddydd i ddydd?

Nawr te, ble sy’n well i gychwyn y broses, gan osod esiampl i’r genedl gyfan, na’n Senedd genedlaethol – a honno rywsut wedi ennill arwyddocâd newydd yn dilyn Covid ac etholiad 2021? Senedd lle mae’r amgylchiadau’n ddelfrydol?

Beth amdani gydwladwyr? Dyma’r sialens (neu apêl os yw “sialens” yn air rhy gryf):

  • i siaradwyr rhugl eu Cymraeg, ei defnyddio’n ddieithriad, yn normal a naturiol, yn hy ac yn hyderus, wrth annerch ac ateb y Cymraeg a’r di-Gymraeg fel ei gilydd. Dwyieithrwydd cydradd, hwnna ydi-o
  • i siaradwyr Cymraeg llai rhugl, ei defnyddio’n achlysurol ond yn fwyfwy mynych, gan gofio mai defnydd sy’n gwella meistrolaeth
  • i’r di-Gymraeg, o leiaf ei defnyddio’n symbolaidd ac o bosibl fynd ati i’w dysgu – fel y gwnaeth Glyn Davies a David TC Davies yn y Cynulliad Cenedlaethol cyntaf rhwng 1999 a 2003

Mi allwn apelio ar sail gwroldeb neu ddyletswydd, ond diflas fyddai hynny. Beth am hyder a balchder? Neu’n well fyth, beth am lawenydd cyffrous wrth goleddu trysor rhyfeddol ein heniaith, prif ffynhonnell fyrlymus ein hunanieth genedlaethol, ei hyrwyddo a’i gloywi i ateb gofynion oes newydd? A mwynhau’ch hunain, ymhyfrydu, wrth wneud hynny?

Dymuniadau da i chi yn eich gwaith yn ein Senedd genedlaethol

Yn gywir

Cynog Dafis

 

 

GALWAD GYNTAF DYFODOL AR Y SENEDD NEWYDD: GWEINIDOG PENODOL I’R GYMRAEG

Yn dilyn canlyniadau’r etholiad, mae Dyfodol i’r Iaith yn galw ar y Senedd newydd i sicrhau Gweinidog penodol ar gyfer y Gymraeg a hynny ar fyrder.

Ar hyn o bryd, fel yn y gorffennol, disgwylir i ba bynnag Weinidog sy’n gyfrifol am y Gymraeg rannu’r gwaith gyda chyfrifoldebau eraill. Yn achos Carwyn Jones, bu raid iddo gydbwyso’r Gymraeg gyda’r gwaith o fod yn Brif Weinidog.  A gwelsom y llynedd sut yr ychwanegwyd materion iechyd meddwl a lles at y Gymraeg fel rhan o waith Eluned Morgan.

Dywed Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol:

“Ni chredwn ei fod yn bosib, gyda’r ewyllys orau, i’r un Gweinidog allu rhoi chwarae teg i’r Gymraeg heb agenda clir i ganolbwyntio’n gyfangwbl ar yr iaith. Ein galwad gyntaf ar y Senedd newydd, felly, yw penodi Gweinidog sy’n llwyr gyfrifol am les y Gymraeg.

Mae Cymru a’r Gymraeg yn wynebu cyfnod heriol yn sgil Covid 19, ac mae’n hanfodol bellach i sefydlu strwythurau grymus yn ddiymdroi er mwyn llywio’r iaith tuag at ddyfodol llewyrchus.

Ategwn drachefn ein galwad am Awdurdod Cenedlaethol i gydlynu cynllunio ieithyddol yng Nghymru a Gweinidog i’r Gymraeg a fydd yn rhoi ei holl sylw i adfywiad yr iaith.