APÊL I AELODAU’R SENEDD NEWYDD DDEFNYDDO’R GYMRAEG

Mae Cynog Dafis, ar ran Dyfodol i’r Iaith, wedi gosod apêl i Aelodau’r Senedd newydd i ddefnyddio’r Gymraeg hyd eithaf eu gallu a’r amgylchiadau wrth fynd o gwmpas eu gwaith. Mewn llythyr agored a gyhoeddwyd yn rhifyn cyfredol y cylchgrawn Golwg, mae’r cyn-Aelod Seneddol a Chynulliad yn galw ar y gwleidyddion i roi dyhead y Llywodraeth i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg ar waith yn ymarferol drwy osod esiampl o ddefnyddio’r Gymraeg mewn bywyd cyhoeddus.

Awgrymir y canllaw canlynol i Aelodau’r Senedd:

  • i siaradwyr rhugl eu Cymraeg, ei defnyddio’n ddieithriad, yn normal a naturiol, yn hy ac yn hyderus, wrth annerch ac ateb y Cymraeg a’r di-Gymraeg fel ei gilydd er mwyn hyrwyddo dwyieithrwydd cydradd
  • i siaradwyr Cymraeg llai rhugl, ei defnyddio’n achlysurol ond yn fwyfwy mynych, gan gofio mai defnydd sy’n gwella meistrolaeth
  • i’r di-Gymraeg, o leiaf ei defnyddio’n symbolaidd ac o bosibl fynd ati i’w dysgu – fel y gwnaeth Glyn Davies a David TC Davies yn y Cynulliad Cenedlaethol cyntaf rhwng 1999 a 2003.

Pwysleisia Cynog Dafis nad ar sail gwroldeb na dyletswydd y dylid ymgymryd â chynyddu eu defnydd o’r Gymraeg, ond yn hytrach mewn ysbryd o: “hyder a balchder – llawenydd, hyd yn oed – yn nhrysor rhyfeddol ein  heniaith”, a thrwy hynny, “ei hyrwyddo a’i gloywi i ateb gofynion oes newydd.”

Dyma’r llythyr yn llawn:

Y Gymraeg yn ein Senedd Genedlaethol

Yn Senedd Cymru, sefydliad dwyieithog yng ngwir ystyr y gair, mae pob cyfleustra i ddefnyddio’r Gymraeg – mewn pwyllgor, yn y sesiwn lawn, ar bapur ac ar sgrîn. Ac mae cyfran anghymesur o’r Aelodau etholedig yn medru’r iaith i raddau amrywiol o rwyddineb a huodledd.

Yr argraff sy gen-i fodd bynnag – heb unrhyw ystadegau i brofi’r pwynt – yw mai ymylol, ac yn sicr nid normal, yw’r defnydd ohoni. Yn gyffredin fe glywn-ni siaradwyr Cymraeg rhugl yn optio am y Saesneg, y lingua franca ryngwladol honno y mae ei lledaeniad yn erydu’r defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg o ddydd i ddydd ac o flwyddyn i flwyddyn.

Gadewch i ni gymryd am funud y bydd y Llywodraeth Lafur newydd yn cymryd y syniad o “filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050” o ddifrif ac yn darparu adnoddau digonol at y gwaith. Beth yw pwynt hynny meddech chi os nad yw defnydd o’r iaith yn cynyddu? Proses fyddai hynny o fwy a mwy bobl yn dewis defnyddio’r Gymraeg yn gynyddol, yn ddieithrad hyd oed lle bo hynny’n ymarferol, yn eu bywydau. Y term technegol yw “gwrthdroi shift iaith”. Creu caseg eira twf y Gymraeg. Nid dim ond ym mryniau Bro Afallon y Gorllewin neu yn nyfodol dychmygedig y miliwn siaradwyr, ond nawr, yma, yn y realiti dwyieithog ffafriol-i’r-Saesneg y mae’r mwyafrif mawr ohonon-ni’n byw ynddo o ddydd i ddydd?

Nawr te, ble sy’n well i gychwyn y broses, gan osod esiampl i’r genedl gyfan, na’n Senedd genedlaethol – a honno rywsut wedi ennill arwyddocâd newydd yn dilyn Covid ac etholiad 2021? Senedd lle mae’r amgylchiadau’n ddelfrydol?

Beth amdani gydwladwyr? Dyma’r sialens (neu apêl os yw “sialens” yn air rhy gryf):

  • i siaradwyr rhugl eu Cymraeg, ei defnyddio’n ddieithriad, yn normal a naturiol, yn hy ac yn hyderus, wrth annerch ac ateb y Cymraeg a’r di-Gymraeg fel ei gilydd. Dwyieithrwydd cydradd, hwnna ydi-o
  • i siaradwyr Cymraeg llai rhugl, ei defnyddio’n achlysurol ond yn fwyfwy mynych, gan gofio mai defnydd sy’n gwella meistrolaeth
  • i’r di-Gymraeg, o leiaf ei defnyddio’n symbolaidd ac o bosibl fynd ati i’w dysgu – fel y gwnaeth Glyn Davies a David TC Davies yn y Cynulliad Cenedlaethol cyntaf rhwng 1999 a 2003

Mi allwn apelio ar sail gwroldeb neu ddyletswydd, ond diflas fyddai hynny. Beth am hyder a balchder? Neu’n well fyth, beth am lawenydd cyffrous wrth goleddu trysor rhyfeddol ein heniaith, prif ffynhonnell fyrlymus ein hunanieth genedlaethol, ei hyrwyddo a’i gloywi i ateb gofynion oes newydd? A mwynhau’ch hunain, ymhyfrydu, wrth wneud hynny?

Dymuniadau da i chi yn eich gwaith yn ein Senedd genedlaethol

Yn gywir

Cynog Dafis

 

 

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi.