Y GYMRAEG AC S4C: DYFODOL YN MYNNU AR FLAENORIAETH I’R IAITH

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi gofyn am gyfarfod buan gyda Phrif Weithredwr S4C i drafod eu pryderon ynglŷn â sut mae’r sianel yn blaenoriaethu’r Gymraeg.

Yn dilyn ymholiadau diweddar y mudiad, ymddengys mai ond 15-20% o oriau darlledu’r sianel sy’n cael ei is-deitlo yn y Gymraeg, tra rhoddir is-deitlau Saesneg i 78% o’r rhaglenni. Testun pryder arall yw’r cynnydd yn y dialog Saesneg sy’n ymddangos mewn cyfresi dramâu.

Dywed Eifion Lloyd Jones llefarydd Dyfodol:

“Sianel cyfrwng Cymraeg yw S4C, a sianel sy’n bodoli er lles yr iaith. Credwn fod y methiant o safbwynt cyflenwi is-deitlau digonol yn y Gymraeg yn amddifadu’r siaradwyr rheiny sy’n Fyddar neu’n drwm eu clyw o’r gwasanaeth darlledu ddylai fod ar gael yn hygyrch iddynt yn eu hiaith eu hunain.”

“Pryder arall yw’r defnydd cynyddol o Saesneg mewn cyfresi drama, megis Pobol Y Cwm. Mae gan raglenni o’r math rôl bwysig i’w chwarae mewn normaleiddio’r Gymraeg, a rhannu’r neges gadarnhaol fod y Gymraeg yn iaith gymunedol, a bod ei dysgu a’i siarad yn sgil sy’n agored i bawb.”

“Edrychwn ymlaen at ymateb y sianel, ac at drafodaeth adeiladol ynglŷn â chadarnhau ei hamcan creiddiol.”

 

RHAGLEN DYFODOL AR GYFER EISTEDDFOD CAERDYDD

Mae Dyfodol yn falch iawn i gyhoeddi dwy sgwrs ym Mhabell y Cymdeithasau yn ystod yr Eisteddfod eleni. Ar ddydd Mercher Awst 8fed, bydd Gwion Lewis yn trafod y Gymraeg a’r gyfundrefn gynllunio, ac ar y dydd Gwener wedyn, bydd Eluned Morgan yn sôn am strwythurau newydd i hybu’r Gymraeg.

Diogon i gnoi cil drosto, felly, a chroeso cynnes i bawb. Edrychwn ymlaen at eich gweld yn ystod yr Eisteddfod!

Steddfod Caerdydd

TARO’R CYDBWYSEDD: YMATEB DYFODOL I RAGLEN Y LLYWODRAETH AR GYFER Y GYMRAEG

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi croesawu Rhaglen y Llywodraeth ar gyfer y Gymraeg. Credai’r mudiad fod y Rhaglen hon, a’r Comisiwn newydd gaiff ei sefydlu yn ei sgil, yn adeiladu ar brofiadau’r gorffennol drwy barhau i roi sylw i reoleiddio, ond gyda mwy o bwyslais nag o’r blaen ar hyrwyddo’r iaith.

Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd y Mudiad:

“Mae yma lawer i’w groesawu. Mae Dyfodol i’r Iaith wedi bod yn pwyso o’r cychwyn am well cydbwysedd rhwng rheoleiddio a hyrwyddo’r Gymraeg yn gadarnhaol, a chredwn fod angen buddsoddi mewn strwythurau a pholisïau sy’n cyflawni hyn. Mae angen gweithio i gynyddu sgiliau ieithyddol, yn ogystal â’r cyfleoedd sydd ar gael i ddefnyddio’r iaith ym mhob agwedd o fywyd dydd-i-ddydd; y cartref, y gweithle, a’r gymuned. Mae’n rhaid ehangu ein gorwelion, ac mae Rhaglen o’r fath, sy’n cydnabod pwysigrwydd addysg ac sy’n seiliedig ar egwyddorion cynllunio ieithyddol, yn gam sylweddol i’r cyfeiriad iawn.”

Rhybuddiodd, fodd bynnag, bod llwyddiant y Rhaglen a’r Comisiwn newydd yn ddibynnol ar fuddsoddiad ac ymrwymiad:

“Mae’r Rhaglen hon yn un uchelgeisiol o safbwynt twf y Gymraeg – a da hynny, wrth gwrs – ond bydd rhaid sicrhau ymrwymiad hir dymor ac adnoddau digonol er mwyn ei gwireddu.”