DYFODOL I’R IAITH: APȆL I’R DYFODOL

Mae hwn yn gyfnod tyngedfennol i’r Gymraeg. Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi eu bod am sefydlu Comisiwn newydd fydd yn arwain ar bob agwedd o hyrwyddo a rheoleiddio’r iaith. Mae hwn yn gyfle euraidd i ehangu’r gorwelion a gweithredu’n gadarn o safbwynt twf y Gymraeg

Ond, os ydym am weld Comisiwn all wneud gwir wahaniaeth, bydd rhaid pwyso am gorff grymus, sy’n gwneud y gorau o arbenigedd ac ymarfer da cynllunio ieithyddol. Bydd angen i’r Comisiwn gael adnoddau digonol. Galwn am Gomisiwn all gyd-lynu’r holl amryfal sectorau, a dylanwadu ar holl Adrannau’r Llywodraeth er mwyn sicrhau cyd-weithio cynhwysfawr i adeiladu ar yr hyn a enillwyd eisoes. Mae angen Comisiwn all ymateb yn uchelgeisiol i’r heriau dyrys sydd o’n blaenau.

Byddwn yn pwyso am flaenoriaethau addas i gefnogi twf y Gymraeg. Rydym am weld Comisiwn Iaith Cenedlaethol fydd yn:

  • Hyrwyddo’r Gymraeg yn y teulu ac mewn cymunedau
  • Hyrwyddo addysg Gymraeg
  • Gwneud Hanes Cymru ac ymwybyddiaeth iaith yn ganolog mewn ysgolion
  • Creu rhagelen gynhwysfawr i ddysgu’r iaith ar gyfer y gweithle, addysg ac yn y cartref
  • Cyfrannu at gynllunio tai ac economi ardaloedd mwy Cymraeg
  • Creu rhaglen uchelgeisiol i ddysgu’r iaith yn y gweithle ac yn y cartref
  • Cyfrannu at wneud y Gymraeg yn iaith gyffredin ar strydoedd ein dinasoedd, trefi, a phentrefi
  • Cyflwyno rhaglen o Ganolfannau Cymraeg a fydd yn bwerdai iaith yn y gymuned
  • Rhoi cymorth a chefnogaeth wrth weinyddu’r safonau iaith
  • Creu safonau iaith ar gyfer y sector preifat

Ni allwn gyflawni hyn heb ddwyn perswâd ar y gwleidyddion, a dros y misoedd nesaf bydd rhaid i ni gynyddu ein gweithgareddau er mwyn cael y maen i’r wal.

Er mwyn ymateb i’r her hon, rydym am sefydlu swyddfa gyda swyddog lobïo amser llawn ym Mae Caerdydd i weithredu’n rhagweithiol ac ymateb yn syth i ddatblygiadau’r dydd: cryfhau ein presenoldeb gyda’r swyddogion a’r gwleidyddion o fewn y Senedd, er mwyn sicrhau’r gorau i’r Gymraeg

Rydym angen codi £50,000.00 i gyflawni hyn. Fel mudiad annibynnol ac amhleidiol, mae Dyfodol yn llwyr ddibynnu ar gefnogaeth unigolion sy’n rhannu ein gweledigaeth. Rydym eisoes yn gorff dylanwadol, diolch i haelioni ein haelodau a’n cefnogwyr.

A wnewch chi ein cefnogi er mwyn ymfalchïo gyda’n gilydd ein bod yn cyfrannu’n gadarnhaol at lewyrch y Gymraeg?

 

GALW AM BOLISIAU I ANNOG MYFYRWYR CYMRU I ASTUDIO YM MHRIFYSGOLION CYMRU

Mae Dyfodol i’r Iaith yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau pendant i annog disgyblion Cymru i astudio mewn prifysgolion yng Nghymru yn hytrach na’u hannog i fynd i Loegr.

Yn dilyn cyhoeddi ffigurau sy’n awgrymu bod llai o fyfyrwyr yn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, mae Dyfodol i’r Iaith am weld y Llywodraeth yn rhoi’r gorau i ariannu myfyrwyr sy’n astudio yn Lloegr, oni bai eu bod yn dilyn cyrsiau nad ydyn nhw ar gael yng Nghymru.

Mae Dyfodol i’r Iaith hefyd am weld cynllun Seren, sy’n targedu disgyblion galluog yng Nghymru, yn canolbwyntio ar annog myfyrwyr i astudio yng Nghymru.

Medd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Mae gan y Llywodraeth darged uchelgeisiol i gynyddu nifer siaradwyr Cymraeg, ond mae rhai o’i pholisïau ei hun wedi milwrio ers blynyddoedd yn erbyn y targed hwn.  Rydyn ni wedi taflu arian at brifysgolion Lloegr wrth anfon ein myfyrwyr atyn nhw, ac mae hyn yn golygu na fydd y myfyrwyr hyn yn astudio dim trwy’r Gymraeg.

Ychwanegodd Mr Gruffudd, “Yn ddiweddar mae Rhwydwaith Seren wedi targedu disgyblion galluog ein hysgolion i’w cael i astudio yn Grŵp Russell y prifysgolion, nad yw ond un ohonyn nhw – Caerdydd – yng Nghymru. Mae hyn yn sarhad ar brifysgolion eraill Cymru, ac yn rhwym o arwain at ostyngiad yn nifer y myfyrwyr sy’n astudio trwy’r Gymraeg.”

“Cymru, hyd y gwn i, yw’r unig wlad yn y byd sydd am weld y rhan fwyaf o’i myfyrwyr yn astudio y tu allan i’w gwlad eu hunain am eu gradd gyntaf.”

MWY AM EIN CYFLWYNIADAU YN YR EISTEDDFOD

CYNLLUNIO Â’R GYMRAEG: PWYSO AM GYFUNDREFN SY’N CENOGI’R IAITH

Cydnabyddir eisoes bod perthynas yn bodoli rhwng ffyniant y Gymraeg yn ei hamryfal gymunedau a’r gyfundrefn cynllunio tai a thir. A chyda’r Llywodraeth wedi gosod targed i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, yr her yw sicrhau bod y drefn cynllunio’n cefnogi’n hytrach na rhwystro’r uchelgais hon.

 Yn y misoedd diwethaf, cyhoeddwyd glasluniau ar gyfer Fframwaith Cynllunio a Pholisi Cynllunio newydd i Gymru. Ond a fydd y datblygiadau diweddaraf hyn yn debygol o weithio’n gadarnhaol o blaid y Gymraeg? Os ddim, sut mae diwygio’r drefn er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau i dwf y Gymraeg?

Dyma rhai o’r cwestiynau fydd yn cael eu trafod gan Gwion Lewis yng nghyflwyniad Dyfodol i’r Iaith ym Mhabell y Cymdeithasau yn yr Eisteddfod yng Nghaerdydd eleni. Mae’r mudiad yn falch iawn i groesawu siaradwr sydd ag arbenigedd dwys yn y maes cymhleth hwn, ac sydd a’r ddawn i ddod a’i wybodaeth o fewn cyrraedd pawb

Mae Gwion Lewis yn Fargyfreithiwr gyda Landmark Chambers yn Llundain; ei arbenigedd yw cyfraith cynllunio, ac yn unol a’i gefndir a’i ddiddordebau, mae’n ddihafal gymwys i drafod y maes hwn yng nghyd-destun Cymru a’r Gymraeg.  Cynhelir y cyfarfod am 11.45yb, dydd Mercher 8 Awst ym Mhabell y Cymdeithasau.

COMISIWN NEWYDD I’R GYMRAEG: CYFLE I EHANGU’R AGENDA?

Beth allwn ni ddisgwyl o’r Comisiwn newydd a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth ar gyfer cefnogi’r amcan o greu miliwn o siaradwyr yr iaith erbyn 2050? Mae Dyfodol i’r Iaith yn sicr yn awyddus i gael gwybod mwy, a chael trafod y strwythurau newydd fydd yn mynd i’r afael â’r her o hyrwyddo twf yr iaith.

 Mae Dyfodol i’r Iaith yn falch iawn felly, o groesawu Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan i annerch ein cyfarfod ym Mhabell y Cymdeithasau yn yr Eisteddfod yn Nghaerdydd eleni. Bydd hyn yn gyfle gwych i ddod i wybod mwy am weledigaeth y Llywodraeth i’r Gymraeg, a’r egwyddorion sy’n ei chynnal.

 Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith:

 “Mae Dyfodol i’r Iaith wedi bod yn pwyso am gyfeiriad polisi newydd mewn perthynas â’r Gymraeg ers blynyddoedd bellach, a chredwn fod llawer i’w groesawu yn natganiadau diweddaraf y Llywodraeth. Yn amlwg, byddwn yn edrych yn fanwl ar sut y datblygir y cyfeiriad newydd hwn, ac edrychwn ymlaen at drafod hyn ymhellach gyda’r gwleidyddion dros y misoedd i ddod. Dymunwn weld fframwaith a strwythurau fydd yn caniatáu ystyriaeth o anghenion y Gymraeg ar draws yr holl feysydd polisi; a gweledigaeth ehangach, sy’n rhoi’r pwyslais ar dwf y Gymraeg, a hynny o safbwynt y nifer sy’n ei siarad, a’r cyfleoedd i’w defnyddio.”

 “Edrychwn ymlaen at gael holi’r Gweinidog drwy ein Panel, a byddwn yn pwysleisio’r angen amlwg am ymrwymiad ac adnoddau i wireddu’r weledigaeth.”

 Cynhelir y cyfarfod ym Mhabell y Cymdeithasau am 1.15yp ar ddydd Gwener Awst 10.