CYHOEDDI CANLYNIADAU ETHOLIAD: DYFODOL YN GALW AM FWY O YSTYRIAETH I’R GYMRAEG

Yn dilyn cyhoeddi canlyniadau etholiadau’r Cynulliad bore Gwener ddiwethaf, mae Dyfodol i’r Iaith wedi ysgrifennu at Gomisiynydd y Gymraeg i ofyn am eglurder ynglŷn â’r disgwyliadau mewn perthynas â’r Gymraeg ar achlysuron o’r math.

Wrth i’r canlyniadau ddod i mewn, daeth yn glir fod amrywiaeth sylweddol yn y pwyslais a roddir i’r Gymraeg ac yn safon y Gymraeg a ddefnyddiwyd o etholaeth i etholaeth. Er ei bod yn glodwiw clywed dysgwyr yn defnyddio’r iaith, cafwyd cyhoeddwyr yn cael trafferth sylweddol gyda’r Gymraeg, a throeon eraill, cafwyd y cyhoeddiad yn llawn yn y Saesneg, gyda’r Gymraeg yn dilyn fel ôl-ystyriaeth, gan adael i sylwebyddion y cyfryngau siarad drosti.

Mae’n allweddol bwysig fod y Gymraeg yn cael ei chlywed a’i pharchu ar achlysuron cyhoeddus fel hyn, ac mae Dyfodol wedi holi’r Comisiynydd ynglŷn â pha safonau iaith sy’n berthnasol i gyhoeddi etholiadau. Maent hefyd wedi pwyso ar i’r Comisiynydd lunio canllawiau clir, er mwyn osgoi anghysondebau o’r math at y dyfodol.

YMGYNGHORIAD STRATEGAETH Y GYMRAEG MEWN ADDYSG SIR GAERFYRDDIN; YMATEB DYFODOL

Mae Wyn Thomas ar ran Dyfodol wedi ymateb i ymgynghoriad Cyngor Sir Gâr ar Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg. Atodir y ddogfen, a cheir crynodeb o’r prif ganfyddiadau isod:

Mae Dyfodol i’r Iaith yn canmol Strategaeth gydlynus a manwl sydd yn ceisio mynd i’r afael a’r holl agweddau ar ddatblygiad y Gymraeg yn y gyfundrefn addysg yn y sir.

Mae angen gwireddu y targedau trwy gynorthwyo a monitro trylwyr.

Mae angen targedu’r system uniaith Saesneg sydd yn methu darparu’r addysg orau i ddisgyblion Sir Gaerfyrddin.

Mae angen marchnata’r manteision, yn fwy na dim. Mae rhesymau moesol a diwylliannol dros ddysgu ein hiaith gynhenid. Ond erbyn hyn, mae swmp sylweddol o ymchwil addysgol cadarn sydd yn profi bod disgyblion dwyieithog ledled y byd yn datblygu sgiliau pwysig i lefelau sydd y tu hwnt i gyrraedd disgyblion uniaith. Pam felly, parhau i gynnal ysgolion a ffrydiau o’r fath?

Mae Dyfodol i’r Iaith yn gefnogol i’r Strategaeth ac yn gobeithio bydd y broses o gynnig yr addysg orau i ddisgyblion y sir yn parhau ac yn cyflymu yn y dyfodol agos.

Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg