PLEIDLAIS I ADAEL Y GYMUNED EWROPEAIDD YN DESTUN PRYDER MEWN PERTHYNAS A’R IAITH

Mae Dyfodol yn pryderu am yr effaith y gallasai pleidlais dros adael y Gymuned Ewropeaidd ei chael ar y Gymraeg.

Mae’r Gymraeg yn elwa llawer o gydweithio rhwng cefnogwyr ieithoedd lleiafrifol ar draws Ewrop.

Bu Senedd Ewrop yn llwyfan pwysig ar gyfer cydweithio gwleidyddol er lles y Gymraeg ac ieithoedd eraill fel y profa llwyddiannau diweddar gwleidyddion o Gymru wrth gynyddu statws y Gymraeg oddi mewn i sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd ei hun.

Mae Cyngor Ewrop wedi dangos arweiniad drwy hyrwyddo Siarter Ewrop dros Ieithoedd Lleiafrifol a Rhanbarthol sy’n creu dyletswyddau dan gyfraith ryngwladol ar y Deyrnas Gyfunol i hyrwyddo a diogelu y Gymraeg ac ieithoedd brodorol eraill Ynysoedd Prydain ac Iwerddon. Mae cydweithio agosach rhwng yr Undeb a Chyngor Ewrop yn digwydd ac mae hyn yn cynnig posibiliadau cyffrous o ran cynyddu eto fyth statws y Gymraeg.

Os bydd y Deyrnas Gyfunol yn gadael y Gymuned Ewropeaidd mae perygl i’r posibiliadau hynny fynd ar goll.

Gan nad oes darlun eglur o beth fydd natur y berthynas rhwng y DG a’r UE ar ôl pleidlais i adael mae’r ansicrwydd ym maes yr iaith fel ym maes yr economi yn bryder mawr.

 

DYFODOL YN CROESAWU DATBLYGIADAU PEN-BLWYDD RADIO CYMRU

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi rhoi croeso brwd i gyhoeddiad datblygiadau diweddaraf Radio Cymru heddiw. Ar drothwy pen-blwydd y sianel yn ddeugain oed, bydd Radio Cymru’n cynnig pecyn o ddatblygiadau digidol a gorsaf dros dro yn ystod tymor yr Hydref.

Mae Dyfodol wedi bod yn pwyso am ystod ehangach o wasanaethau i Gymry Cymraeg a dysgwyr. Mae’r cyhoeddiad heddiw’n gam sylweddol tuag at ddiwallu tri o ofynion Maniffesto Dyfodol, sef; datblygu dwy orsaf radio Gymraeg, manteisio i’r eithaf ar gyfryngau electronig, a darparu’n effeithiol i bob oed a diddordeb.

Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol: “ Dyma newyddion gwych. Rydym yn falch iawn o glywed bod Radio Cymru yn dathlu ei ben-blwydd drwy edrych ymlaen at y dyfodol, drwy arloesi a chynnig mwy o ddewis i wrandawyr a defnyddwyr y gwasanaeth. Dymunwn bob llwyddiant i’r fenter newydd, ac edrychwn ymlaen at gynnyrch creadigol a chyffrous dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.”