EISTEDDFOD Y FENNI – DIOLCH!

Diolch i bawb a ddaeth draw i’n stondin yn ystod yr Eisteddfod. Bu’n hyfryd sgwrsio â chwi, a gobeithio i chwithau ddod i wybod mwy amdanon ni a’n gwaith. Diolch arbennig i’r sawl a fanteisiodd ar y cyfle i ymaelodi â ni. Diolch hefyd i bawb a fu’n gwirfoddoli ar y stondin ac yn cyfrannu at ein sgyrsiau. Byddwn yn rhoi crynodeb o’r trafodaethau a’r casgliadau ar y wefan yn fuan iawn.
Carwn hefyd rhoi diolch o galon am y rhodd di-enw hael iawn o £800 a dderbyniwyd yn ddiweddar. Rydym yn dibynnu’n llwyr ar gyfraniadau o’r math, ac mae unrhyw gymorth, bo’n rhodd neu’n dâl aelodaeth yn hanfodol i’n gwaith a’n dylanwad fel mudiad. Manteisiwn ar y cyfle hwn i fynegi ein gwerthfaworigaid o’ch cefnogaeth dros y blynyddoedd, gan edrych ymlaen yn hyderus at y ddyfodol gweithgar …
Y fi yw Dyfodol yr Iaith

CYFARFODYDD DIWEDDARAF DYFODOL I’R IAITH

Bu’n gyfnod o siarad a thrafod i’r mudiad yn ddiweddar, gyda thri chyfarfod allweddol yn cael eu cynnal yr wythnos ddiwethaf.

Mae Dyfodol bellach wedi cyfarfod â Gweinidog newydd y Gymraeg, Alun Davies AC, sydd â chyfrifoldeb am addysg cyfwng Cymraeg yn ogystal. Cawsom gyfarfod cadarnhaol ag ef yng Nghaerdydd, a bu’n gyfle i rannu a thrafod prif flaenoriaethau ein maniffesto. Edrychwn ymlaen at gyd-weithio’n agos a’r Gweinidog dros dymor newydd y Cynulliad. Nodwn yn ogystal ein bod yn trefnu rhagor o gyfarfodydd gyda’r gwleidyddion ar ôl iddynt ddychwelyd i’r Cynulliad ym mis Medi..

Bu cynrychiolwyr y mudiad hefyd yn cyfarfod â Betsan Powys, Golygydd Rhaglenni Radio Cymru, a bu’n gyfle i drafod arbrawf arloesol pen-blwydd deugain oed y sianel. Trafodwyd ein gobaith o ehangu darpariaeth, gan gynhyrchu arlwy sy’n the adlewyrchu holl amrywiaeth cynulleidfa a darpar gynulleidfa’r sianel. Dymunwn bob llwyddiant i’r arbrawf.

Ar Orffennaf 28, cynhaliwyd y diweddaraf o’n cyfarfodydd cyhoeddus yng Nghlwb Rygbi Crymych. Unwaith eto, cafwyd croeso cynnes a thrafodaeth fywiog. Diolch i bawb a fynychodd, a gobeithio i ni eich argyhoeddi.