Saith Seren : Ymateb Dyfodol i’r Iaith

Roedd Dyfodol i’r Iaith yn siomedig iawn o glywed y bydd Saith Seren yn cau mis nesaf. Bu’r fenter yn trefnu a hybu gweithgareddau a gigs cyfrwng Cymraeg yn nhref Wrecsam ers 2012.

Mae Dyfodol i’r Iaith o’r farn y bod Canolfannau Cymraeg o’r math yn gyfrwng delfrydol a difyr i hybu defnydd o’r iaith. Maent hefyd yn cynnig cyfleoedd i ddysgu a chodi hyder yn y Gymraeg mewn ardaloedd, megis Wrecsam, lle mae’r cyfleoedd i’w defnyddio fel cyfrwng naturiol yn gallu bod yn gymharol brin.

Dywed Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol:

“Mae’n drueni mawr bod angen i Saith Seren gau.

 

Mae sefydlu Canolfannau Cymraeg yn rhan bwysig o gael y Gymraeg yn iaith fyw mewn mannau llai dwys eu Cymraeg.  Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr egwyddor yma, ac wedi dechrau cyfrannu at sefydlu Canolfannau Cymraeg. Tra bo hyn i’w groesawu, mae angen creu cynllun cadarn ar gyfer datblygu Canolfannau Cymraeg ledled y wlad.

 

Mae’r cant a mwy o Ganolfannau Iaith yng Ngwlad y Basgiaid yn esiampl i’w dilyn.  Mae’r rhain yn cael eu cefnogi gan lywodraeth ganol a lleol, a chan sefydliadau dysgu’r iaith i oedolion.”

 

 

Y Bil Cynllunio (Cymru)

Wrth i Bwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd ystyried gwelliannau i’r Bil Cynllunio (Cymru) yr wythnos hon, mae Dyfodol i’r Iaith yn pwyso am gryfhau’r ystyriaeth a roddir i’r Gymraeg mewn perthynas â cheisiadau unigol.

Tra’n gwerthfawrogi’r parodrwydd a ddatganwyd eisoes dros gryfhau’r Gymraeg o fewn y gyfundrefn cynllunio, mae Dyfodol yn credu bod nawr angen dileu unrhyw amwyster ynglŷn â sefyllfa’r Gymraeg fel mater i’w ystyried mewn perthynas â cheisiadau unigol.

Mae angen sefydlu’r egwyddor hwn yn gadarn o fewn mecanwaith sy’n rhoi ystyriaeth ddyledus i’r Gymraeg.

Dywed Emyr Lewis ar ran Dyfodol i’r Iaith, “ Mae’r galw am hyn wedi bod yn gyson gan Dyfodol a’r mudiadau iaith eraill, ac mae angen setlo’r amwysedd unwaith ac am byth.”

“Mae’r Bil hwn yn cynnig cyfle i warchod y Gymraeg yn yr un modd a rhoddir gwarchodaeth eisoes i ystyriaethau megis cadwraeth a’r amgylchedd; ein blaenoriaeth bellach yw pwyso ar ein gwleidyddion i wireddu hyn ”