Ymateb Dyfodol I’r Iaith i Adroddiad Donaldson

Mae Dyfodol i’r Iaith yn gadarn o’r farn bod angen gweledigaeth eang am le’r Gymraeg yn y system addysg ac ym mywyd Cymru.  Mewn ymateb i adroddiad yr Athro Graham    Donaldson, byddem yn croesawu rhai elfennau, yn benodol:

  • Bod yr adroddiad yn cydnabod cyfraniad ysgolion Cymraeg
  • Bod pwyslais ar allu cyfathrebu gyda gwersi Cymraeg gorfodol hyd at 16

Fodd bynnag, teimlwn y collwyd sawl cyfle, ac fe nodir:

  • Nad oes gweledigaeth eang am rôl addysg Gymraeg wrth lunio gwlad ddwyieithog
  • Nad oes cydnabyddiaeth o’r angen am ehangu addysg Gymraeg ar raddfa fawr
  • Nid oes cyfeiriad at y modd y bu i’r system addysg gyfrannu at ddifa’r iaith, a’i dyletswydd yn awr i gyfrannu at ei hadfer

Mae Dyfodol i’r Iaith yn edrych ymlaen at drafod yr adroddiad gyda’r Llywodraeth gyda’r nod o weld ehangu addysg Gymraeg yn flaenoriaeth.

Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Mae adolygu addysg yng Nghymru’n rhoi cyfle euraidd i’r Llywodraeth drefnu twf addysg Gymraeg.

“Mae adroddiad Donaldson am weld ysgolion Cymraeg yn rhoi cymorth i ysgolion Saesneg, ond mae ysgolion Cymraeg eisoes o dan bwysau mawr gyda’r gwaith o gyflwyno’r Gymraeg i genhedlaeth newydd o ddisgyblion.”

“Yr hyn sydd ei angen yn y lle cyntaf yw ateb y galw am addysg Gymraeg, ac mae angen dyblu nifer yr ysgolion Cymraeg i ddod yn agos at wneud hynny.”

“Yn gyffredinol, mae angen i’r ad-drefnu addysg fod yn rhan annatod o weledigaeth y Llywodraeth ar greu gwlad ddwyieithog, a dw i ddim yn gweld bod yr adroddiad, fel y mae, yn dod yn agos at wneud hyn.”

DYFODOL I’R IAITH YN GWRTHWYNEBU TORIADAU I GYLLID CLWB FFERMWYR IFANC

Mae Dyfodol i’r Iaith yn hynod siomedig o glywed y bydd Clwb Ffermwyr Ifanc yn colli nawdd gwerth £360,000 dros gyfnod o dair blynedd.

Mae Dyfodol yn adnabod a gwerthfawrogi’r gwaith ardderchog a wna CFfI yn cynnal gweithgareddau cyfrwng Cymraeg i bobl ifanc yng nghefn gwlad Cymru.

Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith:

“Mae gwaith Clybiau Ffermwyr Ifanc yn fodel o’r hyn sy’n cynnal a diogelu’r iaith Gymraeg; sef cynnig cyfleoedd amhrisiadwy i bobl ifanc ddefnyddio’r iaith mewn cyd-destun cymdeithasol, anffurfiol. Ehangu a datblygu gweithgareddau o’r math yw’r ffordd ymlaen, a gwrthwynebwn y bygythiad hwn i fudiad sydd ers blynyddoedd bellach wedi cefnogi a chyfoethogi’r iaith Gymraeg mewn cymaint o gymunedau cefn gwlad.”

Ymateb Dyfodol i Gwilym Owen

Dyma ein ymateb, sydd wedi ymddangos yng ngholofn llythyrau ‘Golwg’ yn eu rhifyn cyfredol (Ionawr 29 2015)

Annwyl Olygydd,
Diolch i Gwilym Owen am roi cyfle i ni egluro iddo am waith Dyfodol i’r Iaith (Golwg 22/1/2015).
Cafodd Dyfodol i’r Iaith ei sefydlu yn grwpio lobio cyfansoddiadol ddwy flynedd a hanner yn ôl, yn niffyg grŵp o’r fath yng Nghymru. Mae gan nifer o gyrff mewn meysydd eraill grwpiau lobio cyfansoddiadol, yn sgil datblygiad democratiaeth yng Nghymru, a daeth yn hen bryd i’r Gymraeg gael ei chynrychioli.
Yn ystod y ddwy flynedd gyntaf o’i bodolaeth, bu’r mudiad yn ymwneud yn gyson â swyddogion a gwleidyddion llywodraeth ganol a lleol, yn ymateb i fyrdd o ymgynghoriadau, ac yn ymddangos o flaen gwahanol bwyllgorau, gan geisio cynnig polisïau iaith wedi’u seilio ar egwyddorion cydnabyddedig cynllunio iaith.
Fel y mae Gwilym Owen yn ei ddeall, mae angen i’r ymdrechion o blaid y Gymraeg gamu i feysydd y tu hwnt i enillion statws, ac mae angen defnyddio sawl dull i fynd â’r maen i’r mur. Mae lobio yn un o’r dulliau hyn.
Mae Gwilym Owen yn gwybod, gystal â ni, bod bwlch wedi’i adael gyda diflaniad Bwrdd yr Iaith. Er iddo fod ar brydiau’n ddi-ddannedd, a heb rym mewn rhai meysydd allweddol i’r Gymraeg, yr oedd, serch hynny, yn rhoi arweiniad creadigol mewn sawl cyfeiriad. Collwyd hyn, a cheir erbyn hyn fod y llywodraeth yn gweithredu’n ddoeth ar brydiau, ond bryd arall yn ddigyfeiriad.
Daeth yn glir bod angen corff i gyfeirio a chydlynu polisïau o fewn y llywodraeth a chorff allanol hefyd a all warchod y Gymraeg pan ddaw’n fater o apeliadau cyfreithiol. Tuag at hyn y bydd Dyfodol i’r Iaith yn gweithio yn ystod y misoedd nesaf, gan lunio yr un pryd gynllun iaith i Gymru a fydd yn addas i’r llywodraeth ei ddilyn.
Bydd pwyslais y cynllun ar greu hinsawdd a sefyllfaoedd a fydd yn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg, boed hynny yn y cartref, yn y gymuned neu yn y gwaith.
Mae gennym eisoes 250 o aelodau a chefnogwyr, sy’n cyfrannu’n hael i gynnal dwy swydd ran amser. Ni ragwelwn wastraffu arian ar bencadlys, yn ôl dymuniad Gwilym Owen, ond wrth ddyblu aelodaeth eleni, rydyn ni am i’r swyddi fod yn amser llawn ac am sefydlu swyddfa a fydd wedi’i lleoli, mae’n debyg, yn hwylus i’n swyddogion.
Os yw Gwilym Owen am ymuno â ni, mae croeso iddo fynd i’n gwefan: www.dyfodol.net. Croeso i bawb, wrth gwrs. Yno fe welir enwau ein swyddogion ac aelodau’r Bwrdd. Mae’r rhain i gyd yn gweithio’n gwbl wirfoddol.
Caiff Gwilym Owen weld yno hefyd fraslun o’n gweithgareddau dros y ddwy flynedd diwethaf, gan gynnwys ym maes addysg, y cyfryngau, cymunedau, cynllunio, cynllunio ieithyddol, yr economi, iechyd a thai.
Yn gywir,
Heini Gruffudd
Cadeirydd