Araith Beti George i gyfarfod lansio Dyfodol i’r Iaith, Eisteddfod Genedlaethol 2012

Dwy i ddim yn siwr  – a fydde  Saunders wedi mynnu siarad Cymraeg gyda’i feddyg neu nyrs hanner can mlynedd yn ol.

Fel roedd nyrs cymuned yn y gogledd yn dweud wrthyf yn  ddiweddar –  mae’r bobl hŷn yn credu mai Saesneg yw iaith doctor a nyrs ac ysbyty a fysen nhw byth yn breuddwydio gofyn am gael trafod eu probleme iechyd yn Gymraeg  –  er mai dyna’r iaith mae’n nhw’n fwya cyffyrddus ynddi.

A ddoe ddiwetha roeddwn yn siarad ag un sy â’r cyflwr dementia arno  –  gofyn iddo a oedd e wedi cael ei asesu yn Gymraeg. Fe gafodd  ddewis medde fe  –  ond dewis Saesneg wnaeth  e  –  achos dyna oedd ei iaith bob dydd yn ei fusnes.

Felly rhaid i mi gyfadde  –  am eiliad – fe groesodd e meddwl i ai gwastraff amser oedd e wedi bod i fynychu cyfarfodydd y grwp sy wedi bod wrthi am dros flwyddyn yn llunio fframwaith strategol ar gyfer defnydd o’r Gymraeg yn y gwasanaethau iechyd, cymdeithasol a Gofal.  Mae’r ddogfen ymgynghorol Mwy na Geirie ar gael i bawb ei gweld  –  ar we’r llywodraeth.

Ond wedyn – fe feddylies i am y dystiolaeth a gafodd ei gasglu ar ein cyfer  –  yn enwedig darn o ymchwil gwerthfawr iawn a gafodd ei neud gan Elaine Davies  –    yn tanlinellu’r ffaith bod hi’n hen bryd i ni roi anghenion defnyddiwr y gwasanaethau yn y canol  –  ac felly, o safbwynt y siaradwyr Cymraeg bod yr iaith yn cael ei ystyried yn angen nid dewis.

Fe gasglodd Elaine brofiadau siaradwyr Cymraeg wrth ddefnyddio’r gwasanaethau  –  mae rhai yn brofiadau da  –  mae eraill yn annerbyniol.

Mae’r hen ymadrodd na –  They all speak English anyway  – yn wir dwy’n gwbod  –  ag eithrio plant bach uniaith Gymraeg, pobl gydag anableddau dysgu, a rhai sy wedi colli gafael ar eu hail iaith o achos dementia neu stroc.

Ond mae’r dyfyniad hwn o waith ymchwil Elaine yn dweud y cwbwl  –

“Rwyn teimlo’n fwy cartrefol yn siarad fy mamiaith. Mae fel bod gartre gyda’r holl annibendod cyfarwydd, cyfforddus o’ch cwmpas. Mae siarad ail iaith fel bod yn chi’ch hun ond yng nghartre rhywun arall!”

Dwy’n derbyn ei bod hi’n anodd i rywun sy’n siarad dim ond un iaith – i ddeall hynny. Ond os ydi ansawdd gofal  –  gyda’r pwyslais ar angen yr unigolyn  – bregus  –  yn golygu unrhywbeth i’r darparwr, a nyrs ,doctor,  gofalwr  –  yna mae’n rhaid iddyn nhw dderbyn bod “they all speak English anyway”  yn hollol gamarweiniol.

Gan ddyfynnu eto  –  “mae’n rhaid i’r gweithiwr gymryd cam yn ol a dangos ychydig o wyleidddra proffesyinol …..Dyw o ddim yn gorfod costio pres  ….agwedd ydi o, …………”

A dyna sy’n hanfodol bwysig yn fy marn i  –  yr agwedd.  A dyw h’n costi dim dimai i newid agwedd – agwedd fel sy gan gymdeithas  y meddygon  –  y BMA.

Roedden nhw wedi achub y blaen cyn bod y ddogfen Mwy na Geirie wedi ei lansio’n iawn  –  gofyn y cwestiwn  –  gwario arian ar wasanaethau rheng flaen neu ar yr Iaith Gymraeg?.    Ac unwaith eto yr wythnos ddiwetha  –  pan roedd prinder meddygon yn ysbytai Cymru  –   yn y newyddion  –  eu hymateb nhw oedd  –  un rheswm pam ei bod hi’n anodd recriwtio meddygon i ddod i weithio yng Nghymru ydi  –  bod na ddisgwyl iddyn nhw i gyd siarad Cymraeg.

Wel na,  dwy’m yn meddwl bod neb yn disgwyl i bob meddyg a nyrs a gofalwr fod yn gallu siarad Cymraeg.  Os ydi’r agwedd at yr iaith yn iach  –  yna mae modd goresgyn unrhyw broblem ieithyddol.  A dyna pam mae’n bwysig bod y pwyslais yn newid: nid ar y defnyddiwr  –  yr unigolyn  bregus  y dyle’r gyfrifoldeb fod am ofyn am wasanaeth yn y Gymraeg  –  ar y darparwr y dyle’r gyfrifoldeb fod i gynnig y gwasanaeth yn y Gymraeg.

Ac am y gost o weithredu’r srategaeth  –   annhebyg iawn y bydd angen chwaneg o adnoddau i weithredu mwyafrif yr ymrwymiadau  –  mae angen i sefydliadau weithredu mewn ffordd wahanol  –  ac ystyried y Gymraeg fel elfen greiddiol o gynllunio a darparu pob gwasanaeth. –  nid ei chyfri fel ryw niwsans y mae’n rhaid ei chynnwys oherwydd bod y gyfraith yn mynnu hynny.

Mae’n annerbyniol  nad oedd unrhyw son am y Gymraeg yn benodol yn y mesur Gwasanaethau Cymdeithasol newydd. Clywais i ei fod wedi ei dynnu o’r ddogfen a aeth mas i ymgynghoriad. Dwy’n gobeithio y bydd e’n cael ei roi nol  wedi’r ymgynghoriad.   Rhaid prif-ffrydio’r gwasanaethau Cymraeg fel rhan o bob polisi a strategaeth yn ymwneud ag iechyd a gofal.

Siom arall yw darganfod bod na fwy o gydymdeimlad ieithyddol weithie gan y di-Gymraeg . Mae Rhianwen Roberts o Ddyffryn Conwy yn son am nyrs ardal a gweithwraig Gymdeithasol  –  y ddwy yn Gymraeg eu hiaith  –  heb y gronyn lleia o werthfawrogiad o ffactorau ieithyddol a chefndirol a diwylliannol wrth ofalu am ei thad.

Ond  ymgynghorydd Saesneg ei iaith yn deall yn gynhenid medde Rhianwen sut i gyfathrebu a’i thad sy heb weld dim byd heblaw’r tir a ffermio ar hyd ei oes..

Ond eithriad yw hwnnw  medd Rhianwen  –    Ac onibai ei bod hi’n monitro’n gyson ac yn mynnu bod ei rhieni yn deall beth sy’n cael ei ofyn a’r staff yn deall beth yw’r atebion, mae Rhianwen yn amau a bydde iechyd ei thad yn cael ei ei reoli gystal.

Ac un peth arall sy wedi rhoi sioc i Rhianwen yw darganfod nad oes un person yn siarad Cymraeg yn y tim asesu iechyd meddwl yng Nghonwy. Mae Rhianwen yn ymwybodol bod gan yr unigolyn yr hawl i ofyn am asesiad yn Gymraeg  –  ond fel mae hi’n dweud  –  yr eironi yw nad yw person sy’n ddigon hyderus i ofyn am asesiad yn y Gymraeg yn mynd i fod yn debygol o fod ag angen y fath asesiad.

Dyna  pam ei bod hi mor bwysig bod yr haen ucha yn y gwasanaethau yn dangos yn glir eu bod o blaid cryfhau’r Gymraeg  a sicrhau bod angen iaith yn elfen allweddol o ofal. Os ydi’r bosys o blaid hynny  –  dwy i’n credu wedyn y bydd y gweithwyr ar y ffas yn gwerthfawrogi hynny.

Mae na son am brinder nyrsis a gofalwyr Cymraeg eu hiaith.  Ond mae na lawer iawn sy’n gallu’r iaith ond yn amharod i’w defnyddio   –  dyw Nghwmrag i ddim yn ddigon da. Mae angen ennyn hyder y rhain . Dysgwyr hefyd  – maen nhw’n bwysig. Mae’n rhaid bod y Gymraeg yn cael ei ystyried yn elfen greiddiol o ‘r broses cynllunio’r gweithlu  –  felly hefyd o safbwynt addysg a rhaglenni hyfforddi  – Oni ddylai’r Coleg  Cymraeg falle, gynnig ysgoloriaethau i rai sy’n awyddus i ddilyn cyrsiau yn ymwneud a gofal ac iechyd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cyn bo hir fe fydd y dirprwy weinidog  –  Gwenda Thomas  –  a sefydlodd y grwp ac sy mor frwd ag unrhyw un dros newid agwedd a diwylliant  – fe fydd hi yn cyhoeddi’r ymatebion i’r ddogfen ymgynghorol a wedyn yn lansio’r strategaeth.

Mae na amserlen o dair blynedd  –  ond mae cyflawni cynnydd yn y flwyddyn gynta yn hanfodol   –  cryfhau’r arweinyddiaeth, mapio’r gweithlu a chynyddu’r ffocws ar sgilie iaith Gymraeg, hyfforddiant, ymwybyddiaeth a datblygiad proffesiynol.

Dwy i wedi dysgu llawer o fod yn aelod o’r grwp  –  iaith newydd i ddechre  –  acronymeg .

Dwy i wedi dysgu hefyd nad y gwleidyddion, a’r  gweinidogion sy’n cael y gair ola bob tro  –  mae Yes Minister yn tra arglwyddiaethu yn rhy aml o hyd gwaetha’r modd.

Roedd hi’n fraint hefyd i gael bod yn aelod o grwp o dan gadeiryddiaeth Graham Williams  – i gyd yn benderfynol  –  na fydd y strategaeth yma yn eistedd ar y silff i gasglu llwch  –  fel cynifer o’i blaen. Os na rhown ni’r strategaeth hon ar waith ar unwaith  –  fe fydd hi’n rhy hwyr.