Siaradwyr – Cyfarfod Cyffredinol

Fe fydd cyfarfod cyffredinol cyntaf Dyfodol yn cael ei gynnal ar yr 20fed o Hydref yn Aberystwyth.

Cadeirydd y cyfarfod fydd Angharad Mair ac ymhlith y siaradwyr bydd yr Athro Richard Wyn Jones o Brifysgol Caerdydd a Kathryn Jones o Gwmni Iaith fydd yn trafod sefyllfa’r Gymraeg heddiw.

Fe fydd trafodaeth hefyd gydag  Dr Elin Royles o Brifysgol Aberystwyth, Rebecca Williams (UCAC) a Llyr Roberts, (Positif) ar beth yn union yw lobio yng Nghymru heddiw.

Fe fydd cyfle hefyd i aelodau gyfrannu i drafodaeth eang ar raglen waith y mudiad.

Mae’r cyfarfod yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Arad Goch, Aberystwyth i ddechrau am 11am ar yr 20fed o Hydref. Fe ddarperir cinio am bris rhesymol.

Beth mae Dyfodol i’r Iaith yn ei olygu i mi – Angharad Dafis

Mae sicrhau dyfodol i’r iaith Gymraeg yn bwysicach na llwyddiant unrhyw fudiad. Mae’n ymwneud â hunaniaeth y bobl hynny sy’n perthyn neu sy’n teimlo eu bod yn perthyn i’r cilcyn hwn o ddaear, a thrwy hynny yn rhan o gynhysgaeth y ddynoliaeth oll. Mae hi wrth reswm yn dreftadaeth i’r rheiny ohonom sy’n hanu o linach ddi-dor o siaradwyr Cymraeg. Mae hynny yn dipyn o ryfeddod. Mwy fyth o ryfeddod fodd bynnag yw’r ffaith fod cynifer wedi mynd ati i ddysgu ac i gofleidio’r Gymraeg, er na chawsant eu magu ynddi o’r crud.