Neges Calan gan ein Cadeirydd, Heini Gruffudd

Yr adeg yma y llynedd doedd dim son o gwbl am fudiad Dyfodol i’r Iaith. Bryd hynny roedd Bwrdd yr Iaith yn dal i fodoli gyda chwta tri mis i fynd cyn byddai ei swyddogaethau yn cael eu trosglwyddo i’r Llywodraeth ac i ofal Comisiynydd y Gymraeg.

Ond roedd yna nifer yn teimlo bod angen gwneud rhywbeth amgenach o ran hyrwyddo a chefnogi’r Gymraeg. Mae Cymru wedi newid ers sefydlu’r Cynulliad Cendlaethol yn 1999 ac roedd cyfle bellach i ddylanwadu yn uniongyrchol er mwyn creu deddfau a pholisiau fyddai’n hyrwyddo’r Gymraeg.

Ddiwedd mis Mawrth daeth llond llaw o bobl ynghyd yn Nhy Tawe, Abertawe i drafod beth oedd yn bosibl. Roedd y brwdfrydedd yn amlwg a diolch i gefnogaeth hael ambell unigolyn a chwmni llwyddwyd o fewn ychydig fisoedd i greu mudiad newydd  fyddai’n hyrwyddo’r Gymraeg mewn dulliau cyfansoddiadol.

Ar faes Eisteddfod y Fro roedd Pabell y Cymdeithasau dan ei sang ar gyfer cyfarfod cyntaf Dyfodol i’r Iaith, ac er mor anghysbell oedd ein stondin daeth nifer helaeth yno i ymaelodi. Ym mis Medi cynhaliwyd y cyfarfod cyffredinol cyntaf i sefydlu’r mudiad yn swyddogol ac ethol cyfarwyddwyr a phwyllgor gwaith.

Bellach mae dros 200 o aelodau gan Dyfodol ac mae na incwm rheolaidd o £30,000 y flwyddyn. Ond megis dechrau yw hyn. Mae angen mwy na threblu’r incwm blynyddol i sicrhau y bydd gweledigaeth Dyfodol yn cael ei gwireddu. Mae angen incwm sylweddol i gyflogi swyddogion fydd yn gweithio yn llawn amser yn hyrwyddo’r Gymraeg yn y cylchoedd gwleidyddol. A does dim dwywaith mae gwir angen codi ymwybyddiaeth am sefyllfa’r Gymraeg a sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu yr hyn y mae nhw wedi addo ei wneud yn eu strategaeth iaith “Iaith Fyw: Iaith Byw”

Ond er nad oes gyda ni swyddogion cyflogedig eto mae aelodau a chefnogwyr Dyfodol wrthi yn brysur yn  sicrhau bod sylw teilwng  i’r Gymraeg  ymhob agwedd o fywyd cyhoeddus Cymru. Rydym wedi ymateb yn ffurfiol i ymgynghoriadau gan Gomisiynydd y Gymraeg, y Comisiynydd Pobl Hyn, BBC Cymru ac S4C, a’r Llywodraeth ar faes Cymraeg i Oedolion a pholisi Awstistiaeth.

Ym mis Chwefror fe fyddwn yn cynnal cynhadledd ar gynaladwyedd iethyddol ym Mhrifysgol Bangor a gydol y flwyddyn nesaf byddwn yn ymateb yn ôl yr angen i ddogfennau a strategaethau er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn gwbl ganolog i fywyd cyhoeddus yng Nghymru.

Felly lle byddwn ni ymhen blwyddyn? Byddwn wedi sefydlu grwpiau o blith cefnogwyr ac aelodau ar feysydd penodol yn ymwneud a’r Gymraeg fydd yn gallu rhoi cyngor a llunio syniadau y gallwn eu cyflwyno i bleidiau gwleidyddol. Byddwn wedi cyfarfod a gwleidyddion o bob plaid i gyflwyno neges Dyfodol y dylai’r Gymraeg fod yn elfen ganolog ymhob maes polisi yng Nghymru o’r economi i’r amgylchedd, o addysg i hamdden. A gyda’ch cymorth chi, aelodau a chefnogwyr, fe fyddwn wedi cynyddu nifer yr aelodau yn sylweddol, wedi treblu ein hincwm ac yn cyflogi staff llawn amser i eiriol dros y Gymraeg.

Mae cefnogaeth ein haelodau yn allweddol i dwf y mudiad ifanc hwn. Fe fyddwn ni’n cynnal cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus ar hyd a lled Cymru yn y misoedd nesaf i ddenu aelodau newydd. Ond yn y cyfamser os gall pob un aelod unigol berswadio dau ffrind neu berthynas i ymuno fe fyddwn ni’n agos at gyrraedd ein nod.

Mae Dyfodol yr iaith yn ein dwylo ni!

 

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi.