DYFODOL I’R IAITH YN CROESAWU CYLLID I’R IAITH

Mae Dyfodol i’r Iaith yn croesawu’n gynnes elfennau o gyllideb y Llywodraeth a gyhoeddwyd heddiw. Mae’r ymrwymiad i glustnodi £5miliwn ychwanegol ar gyfer y Ganolfan Dysgu Cymraeg a’r penderfyniad i gefnogi Asiantaeth Iaith yn gam mawr ymlaen, medd y mudiad.

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi bod yn galw am gryfhau trefn dysgu’r Gymraeg i oedolion, gyda’r nod o roi cyllid sy’n cyfateb i’r hyn sy’n digwydd yng ngwlad y Basgiaid, lle caiff tair gwaith cymaint ei wario ar ddysgu’r iaith i oedolion.  Mae Dyfodol yr Iaith am weld dysgu’r Gymraeg i oedolion yn rhan bwysig o nod uchelgeisiol y Llywodraeth o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae Dyfodol yr Iaith hefyd wedi bod yn galw am greu Asiantaeth Iaith a fydd yn rhydd i ddatblygu gweithgareddau fydd yn hyrwyddo’r iaith yn y gymuned, gan gynnwys cadwyn o Ganolfannau Cymraeg.

Dywedodd Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol; ‘ Dyma’r math o ymrwymiad mae’r Gymraeg ei wir angen. Mae dysgu’r Gymraeg i oedolion, ac yn enwedig i rieni, a darpar-rieni, a’r sawl sy’n darparu gwasanaethau, wedi bod yn uchel ar ein rhestr blaenoriaethau o’r cychwyn. Rydyn ni hefyd wedi bod yn galw am Asiantaeth Iaith fydd yn rhydd i roi pwyslais ar hybu’r iaith yn iaith fyw a naturiol yn y gymuned.’

CYHOEDDI CANLYNIADAU ETHOLIAD: DYFODOL YN GALW AM FWY O YSTYRIAETH I’R GYMRAEG

Yn dilyn cyhoeddi canlyniadau etholiadau’r Cynulliad bore Gwener ddiwethaf, mae Dyfodol i’r Iaith wedi ysgrifennu at Gomisiynydd y Gymraeg i ofyn am eglurder ynglŷn â’r disgwyliadau mewn perthynas â’r Gymraeg ar achlysuron o’r math.

Wrth i’r canlyniadau ddod i mewn, daeth yn glir fod amrywiaeth sylweddol yn y pwyslais a roddir i’r Gymraeg ac yn safon y Gymraeg a ddefnyddiwyd o etholaeth i etholaeth. Er ei bod yn glodwiw clywed dysgwyr yn defnyddio’r iaith, cafwyd cyhoeddwyr yn cael trafferth sylweddol gyda’r Gymraeg, a throeon eraill, cafwyd y cyhoeddiad yn llawn yn y Saesneg, gyda’r Gymraeg yn dilyn fel ôl-ystyriaeth, gan adael i sylwebyddion y cyfryngau siarad drosti.

Mae’n allweddol bwysig fod y Gymraeg yn cael ei chlywed a’i pharchu ar achlysuron cyhoeddus fel hyn, ac mae Dyfodol wedi holi’r Comisiynydd ynglŷn â pha safonau iaith sy’n berthnasol i gyhoeddi etholiadau. Maent hefyd wedi pwyso ar i’r Comisiynydd lunio canllawiau clir, er mwyn osgoi anghysondebau o’r math at y dyfodol.