ERGYD BELLACH I DDATBLYGIAD ADDYSG GYMRAEG

Mae Dyfodol i’r Iaith yn arswydo bod cwrs ôl-radd i hyfforddi athrawon yn dod i ben ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Meddai Dylan Bryn Roberts, Prif Weithredwr Dyfodol i’r Iaith, “bydd dod â’r cwrs hyfforddi athrawon i ben yn siŵr o effeithio’n negyddol ar nifer y myfyrwyr sy’n dymuno bod yn athrawon fyddai’n gallu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hi eisoes yn argyfwng o ran diffyg athrawon a bydd y cyhoeddiad yma yn siŵr o waethygu’r sefyllfa fwyfwy.

“Mae Cymru eisoes yn colli hanner a rhagor o’i myfyrwyr i Brifysgolion Lloegr a thu hwnt. Mae hyn yn ergyd bellach fydd yn ei gwneud hi’n fwyfwy anodd i ddatblygu addysg Gymraeg.

“Mae’n glir i ni bod anallu’r Brifysgol i gynnal y cwrs yn deillio o amharodrwydd Llywodraeth Cymru i roi blaenoriaeth i addysgu yng Nghymru, tra yn gwario dros hanner biliwn o bunnau ar gyllido myfyrwyr Cymru ym Mhrifysgolion y tu hwnt i Gymru. O dan bolisi’r Llywodraeth, caiff ein myfyrwyr eu hariannu i adael eu gwlad yn hytrach na manteisio ar Brifysgolion Cymru. Gyda mwy yn dewis gadael, bydd ein sefydliadau yn parhau i weld dirywiad pellach.”

“Rydym wedi ysgrifennu at Lynne Neagle, Ysgrifennydd Addysg a Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Gymraeg yn gofyn iddynt adolygu’r polisi cyllido presennol a dechrau rhoi manteision i fyfyrwyr Cymru astudio yn eu gwlad eu hunain, fel sy’n digwydd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Dyna’r ffordd fwyaf effeithiol hefyd o gefnogi ein Prifysgolion sy’n wynebu heriau digynsail a hirdymor oni welwn ni dro pedol gan ein Llywodraeth.

“Fel ag y mae hi byddwn yn clywed am lawer mwy o doriadau mewn darpariaeth academaidd a swyddi. Ar y llaw arall nid oes unrhyw gap ar wariant Llywodraeth Cymru ar addysg uwch y tu allan i Gymru sydd wedi codi 60% dros y 5 mlynedd olaf. Ai dyma “Cymru sy’n llawn gobaith, uchelgais ac undod” y soniodd Vaughan Gething amdani yn ei araith fel Prif Weinidog newydd Cymru yn ddiweddar?

(Y datganiad llawn yma:)

Datganiad i’r Wasg: Ergyd bellach i ddatblygiad addysg Gymraeg

POLISI LLYWODRAETH CYMRU YN TANSEILIO DYFODOL PRIFYSGOLION AC ECONOMI CYMRU

Mae’r amser wedi dod i Lywodraeth Cymru sylweddoli nad yw ei pholisi presennol o roi yr un gefnogaeth i fyfyrwyr fynd i astudio y tu allan i Gymru ag y mae’n ei rhoi i fyfyrwyr sy’n dewis aros yng Nghymru bellach yn gynaliadwy…

(darllenwch mwy isod:)

POLISI LLYWODRAETH CYMRU YN TANSEILIO DYFODOL PRIFYSGOLION AC ECONOMI CYMRU