EDRYCH TUAG AT DDYFODOL Y GYMRAEG Y TU HWNT I’R ARGYFWNG

Mewn cyfnod digynsail o bryder ac ansicrwydd, daw’n gynyddol bwysig i ni gadw’n bositif ac edrych ymlaen at gyfnod gwell. Dros y misoedd nesaf, bydd Dyfodol i’r Iaith yn parhau i weithredu’n gadarnhaol a chreadigol dros y Gymraeg yn wyneb argyfwng dirdynnol Covid-19, gan sicrhau na fydd yr iaith yn cael ei hanwybyddu dros y cyfnod dyrys hwn.

Byddwn yn lansio ein dogfen polisi, Cynllunio Adferiad y Gymraeg ar lein dydd Gwener (Ebrill 3) ac yn rhannu’r testun gydag Aelodau’r Cynulliad a mudiadau sy’n cefnogi’r Gymraeg. Dyma ein glasbrint ar gyfer Strategaeth gadarn i’r Gymraeg. Mae holl argymhellion y ddogfen yn seiliedig ar yr egwyddor o gynllunio ieithyddol cynhwysfawr a chreu strwythurau addas i ymgymryd â’r gwaith.

Drwy gyfrwng ein gwefan a’r cyfryngau cymdeithasol byddwn yn cyhoeddi cyfres o destunau trafod sy’n codi o Gynllunio Adferiad y Gymraeg. Apeliwn am sylwadau a syniadau gan bawb er mwyn annog trafodaeth ar beth yw blaenoriaethau ac anghenion y Gymraeg.

Mae hwn yn gyfnod anodd i ni i gyd, ond credwn ei fod hefyd yn gyfle i ni feddwl, myfyrio a gobeithio am well byd. Estynnwn wahoddiad i chwi i gyd ddychmygu a chynllunio ar gyfer adferiad y Gymraeg mewn byd fydd yn rhydd o fygythiad Covid-19.

CRYNODEB O’R DDOGFEN:

Mae Cynllunio Adferiad y Gymraeg yn cynnig ymateb i’r her o sicrhau twf y Gymraeg drwy ddefnyddio egwyddorion cydnabyddedig Cynllunio ieithyddol cynhwysfawr er mwyn gwrthdroi shifft iaith a chreu cymunedau o siaradwyr Cymraeg. Mae’n nodi hanfod y meysydd canlynol:

  • Lledaenu dealltwriaeth o bwysigrwydd y Gymraeg
  • Rôl y drefn addysg blynyddoedd cynnar ac addysgofal
  • Y gyfundrefn Addysg Statudol, Bellach ac Uwch
  • Datblygu’r Gymraeg ymysg rhieni, y gweithlu ac yn y gweithle
  • Hyrwyddo defnydd y Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd dydd-i-ddydd
  • Gwarchod y Gymraeg fel iaith gymunedol gyffredin yn ei chadarnleoedd
  • Defnyddio technoleg a’r cyfryngau i gefnogi’r Gymraeg
  • Cynllunio ieithyddol – gweithredu’r egwyddorion a chyd-lynu’r arbenigedd mewn modd integredig a chreadigol
  • Mynnu ar strwythurau cadarn a grymus i roi’r gofynion ar waith

 

GALW AM GYNYDDU ARIAN I DDYSGU’R GYMRAEG YN Y GYMUNED

Medd Ruth Richards, Prif Weithredwr Dyfodol i’r Iaith:

“Rydym yn bryderus yn dilyn sylwadau Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, yn y Senedd, 28 Ionawr.

“Mae Eluned Morgan fel pe bai’n cwestiynu gwerth dysgu’r Gymraeg yn gymunedol i ddysgwyr. Mae angen dathlu bod 12,680 yn dysgu’r Gymraeg yn gymunedol o dan arweiniad tiwtoriaid proffesiynol ledled Cymru.

“Mae angen cryfhau darpariaeth gymunedol dysgu’r Gymraeg, a byddai’n dda gweld y Llywodraeth yn buddsoddi yn y maes yma fel y gwna Gwlad y Basgiaid.

“O ran cynllunio tymor hir, mae angen treblu’r gwariant ar ddysgu’r Gymraeg yn y gymuned ac yn y gweithle, ond am y tro, pwyswn ar y Llywodraeth i gadw a chynyddu’r gwariant yn nhermau arian real.”

Dywedodd Eluned Morgan yn y Senedd, 28 Ionawr 2020:

“Roeddwn i eisiau edrych ar Gymraeg i oedolion yn fanwl—maen nhw’n cael £13 miliwn ac maen nhw’n dysgu tua 12,000 o bobl. Dwi jest eisiau cael golwg ar hynny, ac mae’n cymryd eithaf lot o arian y gyllideb; dwi eisiau sicrhau eu bod nhw’n gwario’r arian yna yn gywir.”

DYSGU HANES CYMRU: Y LLYWODRAETH YN COLLI CYFLE

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi mynegi eu siom o ddeall bod y Llywodraeth wedi gwrthod un o argymhellion y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ynglŷn â dysgu hanes Cymru fel rhan o’r Cwricwlwm newydd.

Dywed Wyn Thomas ar ran y mudiad:

“Mae Dyfodol i’r Iaith yn gresynu fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod argymhelliad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i ddysgu corff cyffredin o wybodaeth i holl ddisgyblion Cymru sydd yn astudio hanes. Collwyd cyfle di-gost i danlinellu lle creiddiol yr iaith Gymraeg yn hanes Cymru.

“Yn ei dro, wrth gwrs, byddai sicrhau ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y Gymraeg wedi bod yn gyfraniad pwysig tuag at nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”