YMGYNGHORIAD CYNLLUNIO ADFERIAD Y GYMRAEG PWNC TRAFOD 2: CREU SIARADWYR – (i) Y BLYNYDDOEDD CYNNAR

Ail destun trafod ein hymgynghoriad ar Gynllunio Adferiad y Gymraeg yw maes allweddol y blynyddoedd cynnar.

Fel o’r blaen, byddwn yn ddiolchgar iawn o dderbyn eich sylwadau, awgrymiadau ac unrhyw brofiadau ymarferol perthnasol sydd gennych i’w rhannu â ni. Mae croeso i chwi ddefnyddio’r templed cwestiynau isod neu anfon eich sylwadau atom ar unrhyw ffurf arall.

Nodwn yn ogystal bod Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn ymgynghori ar Bolisi Cenedlaethol ar drosglwyddo’r Gymraeg a’i defnydd mewn teuluoedd (dyddiad cau: Mai 5ed 2020). Efallai byddwch yn awyddus i gyfrannu at yr ymgynghoriad hwn yn ogystal; os felly, mae croeso i chwi rannu eich sylwadau â ninnau hefyd.

Isod, ceir grynodeb o ofynion Dyfodol ynglŷn â chreu siaradwyr yn ystod y blynyddoedd cynnar. Os ydych am weld y ddogfen, Cynllunio Adferiad y Gymraeg yn ei chrynswth, mae copi ar gael i’w darllen ar ein gwefan, dyfodol.net

Edrychwn ymlaen at glywed gennych – cysylltwch â ni gyda’ch sylwadau:

[email protected]

neu ffoniwch 01248 811798

 PWNC TRAFOD 2: CREU SIARADWYR (i) Y BLYNYDDOEDD CYNNAR

 Yr Egwyddor:

Mae’r blynyddoedd cynnar yn holl-bwysig – o ran sefydlu hyfedredd ac o ran sefydlu’r arfer o ddefnyddio’r iaith.

 YDYCH CHI’N CYTUNO Â’R EGWYDDOR HWN? OES GENNYCH UNRHYW SYLWADAU?

Y Nod:

  • Yn y blynyddoedd yma mae trosglwyddo’r Gymraeg drwy’r teulu a’r aelwyd yn ganolog – rhyw 7% o aelwydydd Cymru sydd ar hyn o bryd yn aelwydydd Cymraeg. Mae angen calonogi a chefnogi rhieni i drosglwyddo’r iaith i’w plant ac mae mentrau megis cynllun Twf, a grëwyd gan Gwmni iaith Cyf ond mae Mudiad Meithrin yn gyfrifol am ei weithredu, yn dangos sut mae gwneud hynny.
  • Yn gyfochrog â hyn, mae angen Cymreigio’r system addysgofal i’r blynyddoedd cynnar – cylchoedd meithrin ond hefyd yr holl amrywiaeth o leoliadau sy’n darparu gofal i blant bach. Yn yr oed yma trochiad, nid dwyieithrwydd, yw’r egwyddor sylfaenol. Mae llawer o waith wedi’i wneud ac wedi dwyn ffrwyth ond mae bylchau mawr, mawr iawn yn aros.

 YDYCH CHI’N CYTUNO Â’R NODAU UCHOD?

PA GYMORTH A CHEFNOGAETH SYDD ANGEN AR RIENI A GOFALWYR I DROSGLWYDDO’R IAITH AR YR AELWYD?

SUT GALLWN DDARPARU ADDYSGOFAL GYMRAEG CYNHWYSFAWR I BLANT CYN IDDYNT DDECHRAU’R YSGOL?

OES GENNYCH CHI UNRHYW BROFIADAU O HYRWYDDO’R GYMRAEG YN Y BLYNYDDOEDD CYNNAR A FYDDECH YN FODLON EU RHANNU GYDA NI?

OES GENNYCH CHWI UNRHYW SYLWADAU PELLACH YNGLŶN Â HYRWYDDO’R GYMRAEG YN YSTOD Y BLYNYDDOEDD CYNNAR?

 

GALW AM FFRAMWAITH DATBLYGU CENEDLAETHOL SY’N CYFRANNU AT FFYNIANT Y GYMRAEG

Yn ystod yr haf eleni, disgwylir cyhoeddi’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol 2020-2040. Dyma’r ddogfen fydd yn gosod y cyfeiriad ar gyfer cynllunio gwlad a thref drwy Gymru gyfan, ac yn ôl y mudiad Dyfodol i’r Iaith, caiff ddylanwad sylweddol ar yr iaith Gymraeg.

Dywed Wyn Thomas, aelod o Fwrdd Dyfodol:

“Y Fframwaith hwn fydd y glasbrint ar gyfer cynllunio dros fwyafrif cyfnod Strategaeth y Gymraeg, ac felly byddai rhywun yn disgwyl iddo gyfrannu’n rhagweithiol tuag at y nod o greu miliwn o siaradwyr y Gymraeg. Yn anffodus, mae’r ddogfen ar ei ffurf bresennol yn colli sawl cyfle i wneud hynny.

Ni rodda’r Fframwaith unrhyw ystyriaeth arbennig i gadarnleoedd y Gymraeg, er enghraifft, ac yn wahanol i faterion amgylcheddol, nid oes gan y Gymraeg Ymgynghorai Statudol i warchod ei buddiannau. Credwn y dylai Comisiynydd y Gymraeg dderbyn y cefnogaeth angenrheidiol i ymgymryd a’r gwaith pwysig ac arbenigol hwn.

Wrth i’r Senedd drafod y Fframwaith dros y misoedd nesaf, ofnwn y gwnaiff y diffyg gwarchodaeth ac arbenigedd hyn arwain at danseilio’r ystyriaeth a roddir i’r Gymraeg ac i’r cyfleoedd i’w chryfhau o fewn y gyfundrefn gynllunio. Mae’n argoeli’n ddrwg nad yw’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn barod i’n cyfarfod ein mwyn trafod ein sylwadau.

Ofnwn y gwnaiff y gwaith craffu manwl sy’n angenrheidiol o safbwynt y Gymraeg ddisgyn ar ysgwyddau nifer fach o Aelodau Cynulliad ac mae’r berthynas rhwng cynllunio gwlad a thref a’r Gymraeg yn rhy bwysig i hynny – mae’n fater o bwys strategol i’r genedl gyfan.

Mae Dyfodol wedi ysgrifennu at bob Aelod o’r Cynulliad i bwyso’r mater, codi ymwybyddiaeth ac amlygu’r egwyddor sylfaenol o drefn cynllunio sy’n ategu ymrwymiad y Llywodraeth i’r Gymraeg .”

 

GALW AM GYNYDDU ARIAN I DDYSGU’R GYMRAEG YN Y GYMUNED

Medd Ruth Richards, Prif Weithredwr Dyfodol i’r Iaith:

“Rydym yn bryderus yn dilyn sylwadau Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, yn y Senedd, 28 Ionawr.

“Mae Eluned Morgan fel pe bai’n cwestiynu gwerth dysgu’r Gymraeg yn gymunedol i ddysgwyr. Mae angen dathlu bod 12,680 yn dysgu’r Gymraeg yn gymunedol o dan arweiniad tiwtoriaid proffesiynol ledled Cymru.

“Mae angen cryfhau darpariaeth gymunedol dysgu’r Gymraeg, a byddai’n dda gweld y Llywodraeth yn buddsoddi yn y maes yma fel y gwna Gwlad y Basgiaid.

“O ran cynllunio tymor hir, mae angen treblu’r gwariant ar ddysgu’r Gymraeg yn y gymuned ac yn y gweithle, ond am y tro, pwyswn ar y Llywodraeth i gadw a chynyddu’r gwariant yn nhermau arian real.”

Dywedodd Eluned Morgan yn y Senedd, 28 Ionawr 2020:

“Roeddwn i eisiau edrych ar Gymraeg i oedolion yn fanwl—maen nhw’n cael £13 miliwn ac maen nhw’n dysgu tua 12,000 o bobl. Dwi jest eisiau cael golwg ar hynny, ac mae’n cymryd eithaf lot o arian y gyllideb; dwi eisiau sicrhau eu bod nhw’n gwario’r arian yna yn gywir.”