GALW AM FFRAMWAITH DATBLYGU CENEDLAETHOL SY’N CYFRANNU AT FFYNIANT Y GYMRAEG

Yn ystod yr haf eleni, disgwylir cyhoeddi’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol 2020-2040. Dyma’r ddogfen fydd yn gosod y cyfeiriad ar gyfer cynllunio gwlad a thref drwy Gymru gyfan, ac yn ôl y mudiad Dyfodol i’r Iaith, caiff ddylanwad sylweddol ar yr iaith Gymraeg.

Dywed Wyn Thomas, aelod o Fwrdd Dyfodol:

“Y Fframwaith hwn fydd y glasbrint ar gyfer cynllunio dros fwyafrif cyfnod Strategaeth y Gymraeg, ac felly byddai rhywun yn disgwyl iddo gyfrannu’n rhagweithiol tuag at y nod o greu miliwn o siaradwyr y Gymraeg. Yn anffodus, mae’r ddogfen ar ei ffurf bresennol yn colli sawl cyfle i wneud hynny.

Ni rodda’r Fframwaith unrhyw ystyriaeth arbennig i gadarnleoedd y Gymraeg, er enghraifft, ac yn wahanol i faterion amgylcheddol, nid oes gan y Gymraeg Ymgynghorai Statudol i warchod ei buddiannau. Credwn y dylai Comisiynydd y Gymraeg dderbyn y cefnogaeth angenrheidiol i ymgymryd a’r gwaith pwysig ac arbenigol hwn.

Wrth i’r Senedd drafod y Fframwaith dros y misoedd nesaf, ofnwn y gwnaiff y diffyg gwarchodaeth ac arbenigedd hyn arwain at danseilio’r ystyriaeth a roddir i’r Gymraeg ac i’r cyfleoedd i’w chryfhau o fewn y gyfundrefn gynllunio. Mae’n argoeli’n ddrwg nad yw’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn barod i’n cyfarfod ein mwyn trafod ein sylwadau.

Ofnwn y gwnaiff y gwaith craffu manwl sy’n angenrheidiol o safbwynt y Gymraeg ddisgyn ar ysgwyddau nifer fach o Aelodau Cynulliad ac mae’r berthynas rhwng cynllunio gwlad a thref a’r Gymraeg yn rhy bwysig i hynny – mae’n fater o bwys strategol i’r genedl gyfan.

Mae Dyfodol wedi ysgrifennu at bob Aelod o’r Cynulliad i bwyso’r mater, codi ymwybyddiaeth ac amlygu’r egwyddor sylfaenol o drefn cynllunio sy’n ategu ymrwymiad y Llywodraeth i’r Gymraeg .”

 

2 sylw ar “GALW AM FFRAMWAITH DATBLYGU CENEDLAETHOL SY’N CYFRANNU AT FFYNIANT Y GYMRAEG

  1. Syniadau gwefreiddiol i achub yr iaith sydd yma. Sut mae perswadio’n gwleidyddion i wneud ymrwymiad y byddan nhw’n ei weld yn gostus dros ben?

  2. Diolch am y gymeradwyaeth! O ran dwyn perswâd ar y gwleidyddion, efallai bydd ein darllediad AmGen o ddiddoedeb i chwi – fe’i darlledir dydd Sul Awst 2 am 1 y.p.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *