COVID-19 A GWAITH DYFODOL I’R IAITH

Yn wyneb argyfwng Covid-19, ein blaenoriaeth ni gyd yw cadw’n iach, yn ddiogel a chytbwys ein meddyliau.

Drwy gydol y cyfnod anodd hwn, bydd Dyfodol i’r Iaith yn parhau i weithredu dros les y Gymraeg. Credwn ein bod mewn sefyllfa i allu gwneud hyn mewn modd addas, diogel ac effeithiol. Mae ein staff yn gweithio o gartref, a byddwn mewn cyswllt cyson â’n gilydd, ein haelodau ac, wrth gwrs, y gwleidyddion.

Er na fyddwn yn cynnal cyfarfodydd cyhoeddus tan y bo’n ddiogel i wneud hynny, dymunwn gadw mewn cysylltiad a’n haelodau a’n cefnogwyr. Ceisiwn droi her yr argyfwng yn gyfle i lunio ymateb strategol i anghenion y Gymraeg ac i lywio maniffestos y pleidiau ar gyfer Etholiad y Cynulliad yn 2021. Byddwn yn gwerthfawrogi eich mewnbwn i’r broses hon.

Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn rhannu ein syniadau ac yn gofyn am eich sylwadau ar wahanol flaenoriaethau ac ymgynghoriadau. Efallai – a gobeithio – y gall hyn fod yn ddefnydd buddiol o’r cyfnodau o bellhau cymdeithasol neu hunain ynysu sy’n ein wynebu.

Er waetha’r sefyllfa, daliwn ati’n gadarn a chreadigol, ac afraid dweud, gwerthfawrogwn eich cefnogaeth yn gynnes iawn.

GALW AM FFRAMWAITH DATBLYGU CENEDLAETHOL SY’N CYFRANNU AT FFYNIANT Y GYMRAEG

Yn ystod yr haf eleni, disgwylir cyhoeddi’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol 2020-2040. Dyma’r ddogfen fydd yn gosod y cyfeiriad ar gyfer cynllunio gwlad a thref drwy Gymru gyfan, ac yn ôl y mudiad Dyfodol i’r Iaith, caiff ddylanwad sylweddol ar yr iaith Gymraeg.

Dywed Wyn Thomas, aelod o Fwrdd Dyfodol:

“Y Fframwaith hwn fydd y glasbrint ar gyfer cynllunio dros fwyafrif cyfnod Strategaeth y Gymraeg, ac felly byddai rhywun yn disgwyl iddo gyfrannu’n rhagweithiol tuag at y nod o greu miliwn o siaradwyr y Gymraeg. Yn anffodus, mae’r ddogfen ar ei ffurf bresennol yn colli sawl cyfle i wneud hynny.

Ni rodda’r Fframwaith unrhyw ystyriaeth arbennig i gadarnleoedd y Gymraeg, er enghraifft, ac yn wahanol i faterion amgylcheddol, nid oes gan y Gymraeg Ymgynghorai Statudol i warchod ei buddiannau. Credwn y dylai Comisiynydd y Gymraeg dderbyn y cefnogaeth angenrheidiol i ymgymryd a’r gwaith pwysig ac arbenigol hwn.

Wrth i’r Senedd drafod y Fframwaith dros y misoedd nesaf, ofnwn y gwnaiff y diffyg gwarchodaeth ac arbenigedd hyn arwain at danseilio’r ystyriaeth a roddir i’r Gymraeg ac i’r cyfleoedd i’w chryfhau o fewn y gyfundrefn gynllunio. Mae’n argoeli’n ddrwg nad yw’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn barod i’n cyfarfod ein mwyn trafod ein sylwadau.

Ofnwn y gwnaiff y gwaith craffu manwl sy’n angenrheidiol o safbwynt y Gymraeg ddisgyn ar ysgwyddau nifer fach o Aelodau Cynulliad ac mae’r berthynas rhwng cynllunio gwlad a thref a’r Gymraeg yn rhy bwysig i hynny – mae’n fater o bwys strategol i’r genedl gyfan.

Mae Dyfodol wedi ysgrifennu at bob Aelod o’r Cynulliad i bwyso’r mater, codi ymwybyddiaeth ac amlygu’r egwyddor sylfaenol o drefn cynllunio sy’n ategu ymrwymiad y Llywodraeth i’r Gymraeg .”

 

GALW AM GYNYDDU ARIAN I DDYSGU’R GYMRAEG YN Y GYMUNED

Medd Ruth Richards, Prif Weithredwr Dyfodol i’r Iaith:

“Rydym yn bryderus yn dilyn sylwadau Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, yn y Senedd, 28 Ionawr.

“Mae Eluned Morgan fel pe bai’n cwestiynu gwerth dysgu’r Gymraeg yn gymunedol i ddysgwyr. Mae angen dathlu bod 12,680 yn dysgu’r Gymraeg yn gymunedol o dan arweiniad tiwtoriaid proffesiynol ledled Cymru.

“Mae angen cryfhau darpariaeth gymunedol dysgu’r Gymraeg, a byddai’n dda gweld y Llywodraeth yn buddsoddi yn y maes yma fel y gwna Gwlad y Basgiaid.

“O ran cynllunio tymor hir, mae angen treblu’r gwariant ar ddysgu’r Gymraeg yn y gymuned ac yn y gweithle, ond am y tro, pwyswn ar y Llywodraeth i gadw a chynyddu’r gwariant yn nhermau arian real.”

Dywedodd Eluned Morgan yn y Senedd, 28 Ionawr 2020:

“Roeddwn i eisiau edrych ar Gymraeg i oedolion yn fanwl—maen nhw’n cael £13 miliwn ac maen nhw’n dysgu tua 12,000 o bobl. Dwi jest eisiau cael golwg ar hynny, ac mae’n cymryd eithaf lot o arian y gyllideb; dwi eisiau sicrhau eu bod nhw’n gwario’r arian yna yn gywir.”