DYFODOL I’R IAITH YN LLONGYFARCH YNYS MÔN

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi ysgrifennu at Ynys Môn i longyfarch y Cyngor Sir ar ei benderfyniad i droi iaith weinyddu’r Cyngor i’r Gymraeg. Mae annog gweithluoedd Cymraeg wedi bod yn un o flaenoriaethau polisi Dyfodol i’r Iaith.

Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith, “Mae gwneud y Gymraeg yn iaith naturiol y gweithle’n gam hanfodol wrth i ni sicrhau dyfodol llewyrchus i’r iaith.  Rydyn ni’n canmol y Sir am weithredu’n flaengar.

“Gyda Gwynedd eisoes wedi gwneud hyn, rydyn ni’n edrych ymlaen at weld y Gymraeg yn dod yn brif iaith weinyddu siroedd y gorllewin, o Fôn i Gaerfyrddin. Bydd hyn yn trawsnewid rhagolygon y Gymraeg yn y siroedd hyn.”

“Rydyn ni’n hyderus y bydd y Llywodraeth yn fodlon buddsoddi’n helaeth yn y galwadau hyfforddi iaith fydd yn sail i lwyddiant y newid ieithyddol yma.”

DYFODOL I’R IAITH YN CEFNOGI BWRIAD LLYWODRAETH CYMRU I SEFYDLU COMISIWN Y GYMRAEG

Cyfarfod Cyhoeddus Llanbed 17.11.17

Mae Dyfodol i’r Iaith wedi croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i sefydlu Comisiwn i’r Gymraeg i gynllunio a gweithredu polisïau cyhoeddus i gefnogi’r iaith. Gall sefydlu corff pwerus annibynnol ag iddo gyfrifoldebau eang ym maes cynllunio ieithyddol osod y llwyfan i weithredu strategaeth gynhwysfawr i adfywhau’r Gymraeg yn iaith genedlaethol.

Meddai cadeirydd Dyfodol, Heini Gruffudd, “Dyfodol a lansiodd y syniad o greu corff annibynnol i hyrwyddo’r Gymraeg yn ein maniffesto Creu Dyfodol i’r Gymraeg a gyhoeddwyd yn 2015. Buon ni’n lobïo’r pleidiau cyn etholiad 2016 ac fe gyflwynon-ni ddogfen arbennig, Asiantaeth y Gymraeg, i Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru (a oedd bryd hynny wedi sefydlu Compact â’r Llywodraeth Lafur), yn Nhachwedd 2016. Rydyn ni wrth ein bodd bod Llywodraeth Cymru yn awr yn bwriadu deddfu i sefydlu ‘r Comisiwn newydd hwn.

“Er ein bod yn anghytuno ynghylch rhai agweddau o’r Papur Gwyn a gyhoeddodd y gweinidog Alun Davies yn Eisteddfod Ynys Môn, mae’r Llywodraeth wedi derbyn prif drywydd ein gofynion ni. Mae’n holl bwysig nawr i garedigion yr Iaith gyd-dynnu i wneud llwyddiant o’r trefniadau newydd. Wrth i’r Bil newydd ddilyn ei gwrs drwy’r Cynulliad bydd angen pwyso er mwyn sicrhau nad yw bwriadau’r Papur Gwyn yn cael eu glastwreiddio a bod rhai gwendidau yn cael eu cywiro”

Meddai Cynog Dafis, “Bydd rhaid i’r Llywodraeth ddangos na fydd hawliau siaradwyr Cymraeg yn cael eu gwanhau drwy fod rol y Comisiynydd presennol yn cael ei chynnwys o fewn y Comisiwn newydd. Ond bydd sefydlu’r Comisiwn yn gyfle euraid i ddatblygu rhaglenni cyffrous i hybu a hyrwyddo’r Gymraeg o fewn y teulu a’r gymdeithas ac ym myd gwaith ac wrth gwrs drwy helaethu addysg Gymraeg yn ddirfawr.

“Fodd bynnag dyw bwriadau da ddim yn ddigon. Os yw nod y llywodraeth o greu miliwn o siaradwyr erbyn 2050 i’w gymryd o ddifrif, rhaid wrth adnoddau ariannol sylweddol a chael pobl gymwys ac ymroddedig yn y swyddi allweddol.

“Rydyn ni’n hynod falch bod Llywodraeth Cymru yn gydnabyddus â’r sefyllfa yng Ngwlad y Basgiaid a Chatalwnya lle y gweithredwyd polisïau cynhwysfawr i adfywhau eu hieithoedd cynhenid yn llwyddiannus.”

Fe gyflwynir a thrafodir hyn ymhellach mewn Cyfarfod Cyhoeddus yn Llanbedr Pont Steffan heno yn Festri Capel Brondeifi am 7 o’r gloch ac mae croeso cynnes i bawb.

Cadeirydd y cyfarfod yn Llanbed heno yw Ben Lake AS a ddywedodd “Rwy’n falch o gael cadeirio’r cyfarfod hwn yn nhref fy magwraeth a chlywed am y gwaith pwysig y mae Dyfodol wedi’i wneud i ddylanwadu ar bolisiau Llywodraeth Cymru”.

CROESAWU CYTUNDEB Y BBC AC S4C

Mae Dyfodol i’r Iaith yn croesawu’r Cytundeb rhwng y BBC ac S4C.  Meddai Ruth Richards, prif weithredwr Dyfodol i’r Iaith,

‘Bydd y Cytundeb yn rhoi sefydlogrwydd ariannol i S4C am y deng mlynedd nesaf.  Rydyn ni’n awr yn edrych ymlaen at weld y Sianel yn rhoi ei sylw i ddatblygu’r defnydd o’r datblygiadau technolegol newydd.  Serch hynny, rydym am weld cynnydd yn yr arian ag gaiff S4C, o leiaf yn cydredeg â chwyddiant. Rydym hefyd am wybod beth yw’r oblygiadau i arolwg Euryn Ogwen Williams o S4C.”

“Mae Dyfodol i’r Iaith wedi cytuno bod angen ateb ariannol pragmataidd nes y bydd Llywodraeth Cymru’n gallu datblygu cyfrifoldeb am ddarlledu yng Nghymru.  Mae’r cytundeb hwn i’w groesawu fel rhan o raglen gynhwysfawr o hyrwyddo’r iaith.”